Scooby-Doo! The Mystery of the Pyramid yn y New Theatre Mae criw y Mystery Machine yn dod i Gaerdydd o ddydd Gwener 18 i ddydd Sadwrn 19 Ebrill 2014 mewn cynhyrchiad newydd sbon, Scooby-Doo! The Mystery of the Pyramid. Yn seiliedig ar y cartwn hynod lwyddiannus, mae Scooby-Doo yn dychwelyd i’r llwyfan ar ôl pum mlynedd, gan roi cyfle i ffans newydd a hen weld eu hoff gymeriadau teledu mewn antur a hanner. Bydd Scooby yn ymuno â’r ffrindiau Shaggy, Fred, Velma a Daphne ar un o’r anturiaethau mwyaf egsotig hyd yma. Wedi’u hanfon i’r Hen Aifft, maent yn wynebu heriau enfawr gan geisio ddatgelu dirgelwch pyramid y Ffaro Hatchepsout. A allan nhw osgoi cael eu troi’n garreg gan y Ffaro dychrynllyd? A allan nhw gadw’n glir o’r mymis dychrynllyd? Ac unwaith eto maen nhw’n achub y dydd! Gan aros yn driw i’r cartwn a ysbrydolodd y sioe, mae gan y cynhyrchiad y gerddoriaeth enwog, effeithiau sain rhyfeddol, a’r comedi corfforol doniol sy’n difyrru cynulleidfaoedd o bob oedran. Yn llawn dirgelwch, hwyl a digon o Scooby Snacks, ni all ffans Scooby a’r criw fethu allan ar y sioe! Mae Scooby-Doo! The Mystery of the Pyramid yn y Theatr Newydd o ddydd Gwener 18 i ddydd Sadwrn 19 Ebrill. Mae tocynnau bellach ar werth, gyda phrisiau rhwng £15.00 a £19.50 (tocynnau teulu a gostyngiadau arbennig i blant ar gael). I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Codir ffi fechan am bob tocyn a werthir ar-lein Scooby-Doo! The Mystery of the Pyramid Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Gwener 18 i ddydd Sadwrn 19 Ebrill Dydd Gwener 2.30pm a 6.00pm; dydd Sadwrn 11.00am a 2.30pm Tocynnau: £15.00 - £19.50 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| Y Theatr Newydd, Caerdydd web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, March 24, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
