Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

SEREN Y WEST END LEE MEAD YN ARWAIN CAST CINDERELLA YN Y THEATR NEWYDD!     

SEREN Y WEST END LEE MEAD YN ARWAIN CAST CINDERELLA YN Y THEATR NEWYDD!

Mae Lee Mead, seren y West End, yn siwr o swyno cynulleidfaoedd Caerdydd y Nadolig hwn wrth iddo arwain cast pantomeim bythgofiadwy Cinderella yn rôl Prince Charming. Lee yw’r cyntaf o blith sawl seren a fydd yn cadarnhau eu lle yn y sioe yn y misoedd i ddod.

Daeth Lee i sylw pawb pan enillodd Any Dream Will Do ar y BBC, ymgyrch genedlaethol Andrew Lloyd Webber i ddod o hyd i rywun i chware’r brif ran yn Joseph And The Amazing Technicolor Dreamcoat. Mwynhaodd lwyddiant ysgubol yn y sioe gerdd boblogaidd yn Theatr Adelphi yn Llundain, lle cafodd ei ganmol gan gynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd. Ers hynny, mae Lee wedi atgyfnerthu ei statws fel un o enwau blaenllaw'r theatr gerddorol, gan chwarae rôl Fiyero yn Wicked ac Emmett yn Legally Blonde, ac ef oedd un o'r aelodau a sefydlodd sioe gyngerdd The West End Men sydd wedi’i pherfformio yn y DU a thramor.

Yn ddiweddar, newidiodd Lee y llwyfan am y sgrin gyda rôl reolaidd yn Casualty, rhaglen boblogaidd BBC One. Gallwch ei weld ar nos Sadwrn yn chwarae rhan Ben “Lofty” Chiltern yn y sioe, sy’n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd.

Dywedodd Jonathan Kiley, Cynhyrchydd Gweithredol Cinderella, “Rydyn ni wrth ein boddau o enwi Lee Mead fel un o sêr cyntaf pantomeim y Theatr Newydd eleni. Gall cynulleidfaoedd Caerdydd edrych 'mlaen at gynhyrchiad rhyfeddol o Cinderella. Dyma fyd y pantomeim ar ei orau – bydd llond y lle o wisgoedd mawreddog, lliwiau llachar a cherddoriaeth ryfeddol!”

Dywedodd Grant McFarlane, Rheolwr Cyffredinol y Theatr Newydd, “Rydyn ni wedi’n cyffroi’n lân o glywed y bydd Lee Mead yn rhan o’r sioe dros y Nadolig. Cinerella yw’r pantomeim mwyaf poblogaidd oll, a gallwn addo sioe syfrdanol dros yr wyl.”

Mae Cinderella’n stori am ferch ifanc sy’n llwyddo i fynd o garpiau i gyfoeth. Mae wedi’i haddasu o’r llyfr i’r llwyfan mewn cynhyrchiad hudol llawn comedi, setiau trawiadol, gwisgoedd gwych a digon o hud a lledrith wrth i Cinderella ddiosg ei charpiau i fynd i’r ddawns i gwrdd â’r Tywysog golygus!

Caiff Cinderella ei llwyfannu gan Qdos Entertainment, cynhyrchydd pantomeim mwya’r byd, a’r cwmni a oedd y tu cefn i gynhyrchiant mwyaf llwyddiannus erioed y Theatr Newydd y llynedd. Mae Cinderella'n stori hudol sy’n dangos y gall breuddwydion gael eu gwireddu.

Bydd Cinderella yn y Theatr Newydd o ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr 2014 i ddydd Sul 18 Ionawr 2015. Mae’r tocynnau ar gyfer y sioe Nadoligaidd arbennig hon yn dechrau o gyn lleied â £10.50 gyda'r cynigion sydd ar gael i deuluoedd ac eraill. Gallwch eu prynu drwy ffonio 029 2087 8889 neu fynd i www.newtheatrecardiff.co.uk (codir ffi drafod fechan ar archebion ar-lein).

New Theatre  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Thursday, March 27, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk