“Mae Dinefwr yn ddigwyddiad unigryw, gwych, yr union beth y mae Cymru’n llwyddo i’w wneud mor dda. Bydd hi’n anrhydedd i fod yng nghanol cymaint o bobl creadigol, mewn lleoliad mor anhygoel” – Charlotte ChurchMae mwy o enwau wedi eu cyhoeddi ar gyfer Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr, sef dathliad mawr o greadigrwydd geiriau, cerddoriaeth a’r tirwedd trawiadol, a gynhelir ym Mharc a Chastell Dinefwr yng nghalon cefn gwlad Sir Gâr yr haf hwn. Ymysg y rhai sydd wedi’u hychwanegu at y rhaglen eleni y mae Gruff Rhys, sy’n dychwelyd i Ddinefwr i berfformio’i stori antur aml-blatfform beiddgar ac uchelgeisiol - I Grombil Cyfandir Pell / American Interior – prosiect unigryw sy’n adrodd stori wir am ei berthynas pell John Evans, y teithiwr o’r 18fed ganrif. Bydd Gruff Rhys yn ymuno â llu o dalentau eraill o Gymru yn cynnwys yr artist pop Charlotte Church; y DJ Radio 1 a Radio Cymru Huw Stephens sy’n cyflwyno Lyricism – dathliad o’r gair llafar o fewn cerddoriaeth; a Cate Le Bon – sy’n hanu o Sir Gâr. Dyma’r unig gig y mae Cate wedi ei gadarnhau yng Nghymru cyn ei thaith trwy Brydain yn ystod yr hydref. Mae’r ŵyl dridiau ddwyieithog hon yn cynnig rhaglen amrywiol o awduron cenedlaethol a rhyngwladol, beirdd arobryn a thalentau newydd o’r byd llenyddol Cymraeg a Saesneg. Bydd yno hefyd gomedi, cerddoriaeth, celf, sinema, teithiau cerdded a digonedd o weithgareddau creadigol i blant. Gan fod eleni’n nodi canmlwyddiant Dylan Thomas, bydd ymwelwyr i Ddinefwr yn sicr o ddod ar draws digwyddiadau trwy gydol y penwythnos sy’n dathlu ei fywyd a’i waith. Gwelir sied sy’n cyfateb yn union i sied ysgrifennu wreiddiol Dylan Thomas ar y safle; sioe fyw Dylan ar Daith – perfformiad dwyieithog 60 munud o hyd sy’n olrhain tarddiad hip hop yn ôl i ymweliad Cymro ifanc ag Efrog Newydd ym 1952 trwy gyfuniad o jazz, barddoniaeth a hip hop; a llu o ddigwyddiadau eraill gan gynnwys sesiwn am Dylan Thomas a Bob Dylan. Ceir hefyd digwyddiadau gyda chenhedlaeth newydd o fenywod eofn yn trafod ffeministiaeth. Ymysg y siaradwyr y mae Charlotte Church; Kat Banyard, sylfaenydd y sefydliad UK Feminista, a Laura Bates, sefydlydd y prosiect Everyday Sexism. LLENYDDIAETH Mae Dinefwr yn falch iawn o groesawu Nathan Filer, enillydd Gwobr Costa 2013. Yn ymuno ag ef y mae Helen Dunmore, bardd-nofelydd Prydeinig ac awdur i blant; Horatio Clare; Dan Keiran sefydlydd Unbound; awdur Bed David Whitehouse a Shaun Usher sy’n cyflwyno Letters of Note, casgliad o dros gant o lythyron mwyaf difyr, ysbrydoledig ac anarferol y byd, yn ogystal â llu o awduron ysbrydoledig eraill. Bydd y penwythnos yn cynnwys digwyddiadau yn yr iaith Gymraeg a Saesneg, gydag awduron Cymreig yn cynnwys: Cynan Jones; Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru; Deborah Kay Davies, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2009; Bethan Gwanas; Angharad Tomos a’r cyflwynydd Beti George. Mae rhestr llawn i’w gael ar wefan yr ŵyl. CERDDORIAETH Mae’r cerddoriaeth, a drefnir gan SŴN yn cynnwys y ddeuawd bop hudolus lleol, Trwbador, the Alex Dingley Band a’r band gwerin amgen o ogledd Cymru, Plu. Bydd Adrian Edmondson & The Bad Shepherds, Dan Bettridge, Gabrielle Murphy, Sweet Baboo (a fu ar restr fer Gwobr Cerddoriaeth Cymru yn 2011) a Richard Dawson yn ymuno â nhw. BARDDONIAETH Mae’r rhaglen farddoniaeth yn gryf eleni gydag artistiaid yn cynnwys Owen Sheers; Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru; y bardd perfformio a’r awdur Steven Camden, neu Polarbear; enillydd Llyfr y Flwyddyn 2013, Rhian Edwards a’r bardd pync chwedlonol Attila the Stockbroker. Bydd sioe newydd am y rhyfel byd cyntaf gan Myrddin ap Dafydd a Twm Morys, a bydd Mari George a Rhys Iorwerth yn lansio eu cyfrolau newydd. TEULU Mae Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn lle gwych ar gyfer teuluoedd: mae digonedd o lefydd o fewn y safle i’w archwilio ac aceri o dir lle gall y plant redeg yn rhydd. Bydd yr adloniant yn ar gyfer plant yn cynnwys yr ardderchog Wimpy Kid Show lle bydd y gwesteiwr Alastair Watson yn dod â llyfrau plant llwyddiannus Jeff Kinney yn fyw. Mae’r ŵyl hefyd yn croesawu Nicola Davies, cyn-gyflwynydd y Really Wild Show ac Angharad Tomos a Mair Tomos Ifans a fydd yn eich tywys i Wlad y Rwla. Bydd sioe Cyw yno, a Bardd Plant Cymru – Aneirin Karadog. COMEDI Bydd digon o gyfle i chwerthin yn ystod y penwythnos yng nghwmni Bridget Christie; Daniel Kitson a Gavin Osborn yn perfformio ‘Lucinda Ding and the Monstrous Thing’; Mike Wozniak, perfformiwr y sioe ‘Take the Hit’ a gafodd ei enwebu ar gyfer Foster’s Edinburgh Comedy Award 2013 a Rob Auton sy’n cyflwyno’i sioe farddoniaeth / comedi / theatr – ‘The Sky Show’ – ynglŷn â’r awyr a’r pethau sydd ynddo. Yn ogystal cewch gwrdd â Jeremy Hardy sy’n lais cyson ar BBC Radio 4 ac Elis James, un o ddigrifwyr ifainc gorau Cymru. Bydd hefyd sesiwn gomedi Gymraeg dan ofal y digrifwr Daniel Glyn. Ar gyfer fanylion llawn y rhaglen ewch i: www.gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk Cynhelir digwyddiadau’r ŵyl yn Nhŷ Newton, adeilad trawiadol o’r 17eg ganrif sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mewn pebyll mawr ar dir y Parc, cartref y Gwartheg Gwynion enwog. Eleni, bydd y Castell hynafol, sydd i’w ganfod ar waelod llwybr pryferth drwy’r goedwig, yn lwyfan i berfformiadau sydd wedi’u comisiynu’n arbennig ar gyfer y lleoliad chwedlonol hwn. Mae Parc a Chastell Dinefwr wedi’i leoli ar gyrion Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Bydd yno safle gwersylla wedi’i amgylchynu gan goed a golygfeydd godidog, gam a naid o safle’r ŵyl. Bydd yno hefyd amrywiaeth o stondinau bwyd yn gwerthu cynnyrch lleol. I gael blas ar yr ŵyl gyntaf a gynhaliwyd yn 2012, ewch i gael cip ar rai o’r uchafbwyntiau mewn fideo yma: www.dinefwrliteraturefestival.co.uk/cy/looking-back 
 Tocynnau Gallwch brynu tocyn penwythnos neu docyn diwrnod i’r ŵyl. Mae tocynnau Penwythnos i Oedolion yn costio £65, gyda gostyngiad i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a Llenyddiaeth Cymru. Pris tocynnau Diwrnod i Oedolion yw £25; mynediad i blant o dan 5 am ddim, a pris tocynnau penwythnos a diwrnod i blant rhwng 6-16 oed yw £10 a £5 yn eu trefn. Mae tocynnau gwersylla’n ychwanegol: £20 i bob pabell ar gyfer uchafswm o bedwar person yn rhannu a £30 i gerbydau gwersylla; (£10 ac £20 i Drigolion Lleol). Ewch i’r wefan i weld codau post lleol perthnasol. Trefnir Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. |
| Dinefwr Literature Festival web site: www.dinefwrliteraturefestival.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, March 31, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

“Mae Dinefwr yn ddigwyddiad unigryw, gwych, yr union beth y mae Cymru’n llwyddo i’w wneud mor dda. Bydd hi’n anrhydedd i fod yng nghanol cymaint o bobl creadigol, mewn lleoliad mor anhygoel” – Charlotte Church