Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyhoeddi cynllun interniaeth newydd gyffrous     

Cyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyhoeddi cynllun interniaeth newydd gyffrous

Mae’r cyfnod ymgeisio bellach wedi agor ar gyfer dwy interniaeth 12 mis am dâl, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r swyddi gwag, sy’n rhan o’r tîm Cyswllt â’r Gymuned yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, wedi’u hanelu at y rheiny sydd ag angerdd am weithio â chymunedau amrywiol Cymru.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu lleoliadau yn y Ganolfan ar ddechrau mis Mai a byddan nhw’n chwarae rôl allweddol mewn llunio dyfodol y rhaglen Cyswllt â’r Gymuned yn y Ganolfan. Yn ogystal â gweithio ar brosiectau mawr fel rhan o raglen Dengmlwyddiant y Ganolfan, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cychwyn ar dri lleoliad ychwanegol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gyda’r nod o ymestyn eu profiad o weithio â chymunedau amrywiol o fewn sector y celfyddydau.

Dyma’r ail gylch o interniaethau Cyngor Celfyddydau Cymru ar ôl cynllun interniaeth llwyddiannus iawn rhwng 2012 a 2013 a roddodd gyfle i ddau intern Cymraeg eu hiaith gael profiad gwerthfawr mewn canolfannau celfyddydol ledled y wlad a thramor. Dywedodd Maggie Dunning, Swyddog Datblygu Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cefnogi’r rheiny sydd eisiau datblygu gyrfa yn y celfyddydau, ac ar ôl lleoliadau mor llwyddiannus y llynedd, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o allu parhau i gynnig y gefnogaeth yma, yn arbennig mewn ardal sydd angen sylw ac adnoddau pellach gan y celfyddydau yng Nghymru.”

Bydd yr interniaid yn gweithio gyda’r tîm Dysgu Creadigol a Chyswllt â’r Gymuned yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a bydd gofyn iddyn nhw ddatblygu rhaglenni dyfeisgar sy’n ateb anghenion y gymuned aml-ddiwylliannol yng Nghymru. Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus wybodaeth weithredol da o’r cymunedau hynny a diddordeb yn y celfyddydau a diwylliant.

Dyma’r hyn oedd gan Graeme Farrow, sef Cyfarwyddwr Artistig newydd Canolfan Mileniwm Cymru, i’w ddweud am y cyfleoedd newydd: “Rydyn ni’n credu y bydd y celfyddydau a diwylliant yn elwa o syniadau a safbwyntiau newydd a gyflwynwyd gan weithwyr sy’n dod o bob rhan o’r gymdeithas. Edrychwn ymlaen at ymestyn ein tîm cyswllt â’r gymuned fan hyn yn y Ganolfan gan wybod y bydd y canlyniadau yn gymorth i’r Ganolfan wrth gyflawni ei hegwyddor sefydlol; i fod yn lle i bawb – o bob oed a chefndir – gymryd rhan yn y celfyddydau.”

I gael rhagor o wybodaeth am y ddwy interniaeth yma ac i ymgeisio, ewch i yganolfan.org.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 22/04/2014
wales millennium centre  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Wednesday, April 9, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk