Happy Days yn y Theatr Newydd Bydd Happy Days - A New Musical yn dod i ddiddanu cynulleidfaoedd y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 29 Ebrill tan ddydd Sadwrn 3 Mai. Heidi Range (Sugababes), Ben Freeman (Emmerdale) a Cheryl Baker (Bucks Fizz) fydd yn ymddangos ym mherfformiad cyntaf y sioe gerdd ddoniol a difyr hon a fydd yn dod a hwyl roc a rôl i gynulleidfaoedd drwy’r wythnos. Bydd hoff deulu pawb o’r 1950au, y Cunninghams a gweddill y giang – Potsie, Ralph Malph, Joanie a Chachi yn brwydro i atal bwyty Arnold’s rhag cael ei ddymchwel. Ras yn erbyn amser yw hi, all Brenin Cwl, y Fonz, achub y dydd? Mae Happy Days yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 29 i ddydd Sadwrn 3 Ebrill. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £9.50 i £32.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Happy Days Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 29 i Ddydd Sadwrn 3 Ebrill Dydd Mawrth i ddydd Gwener 7.30pm; perfformiadau prynhawn dydd Iau 2.30pm; dydd Sadwrn 4.00pm ac 8.00pm Tocynnau: £9.50 - £32.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Thursday, April 10, 2014 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
