|
Dechrau chwilio am berfformwyr ifanc i gymryd rhan yn Lord of the Flies gan Matthew Bourne wrth gyhoeddi dyddiadau gweithdai |
Dechrau chwilio am berfformwyr ifanc i gymryd rhan yn Lord of the Flies gan Matthew Bourne wrth gyhoeddi dyddiadau gweithdaiCyhoeddir dyddiadau gweithdai dawns ledled De Cymru wrth i'r gwaith o chwilio am ddawnswyr ddechrau ar gyfer perfformiad Lord of the Flies gan Matthew Bourne yng Nghaerdydd. Bydd y gweithdai yn dechrau'r broses recriwtio i ddod o hyd i 30 o fechgyn, rhwng 10 a 25 oed, i gymryd rhan yn y sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 22 a 25 Hydref 2014. Bydd y gweithdai, a arweinir gan Lysgenhadon Dawns Lord of the Flies, yn cynnig rhagflas am ddim o sut beth fydd perfformio yn y sioe, cyn cynnal y clyweliadau ffurfiol ym mis Mehefin. Yn dilyn y clyweliadau, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedyn yn dechrau proses ymarfer dwys cyn perfformio ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ochr yn ochr â dawnswyr proffesiynol New Adventures Matthew Bourne. Mae dyddiadau’r gweithdai fel a ganlyn: Caerdydd -Tŷ Dawns – Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru 08/06/14 14:30-16:30 a 17:00-19:00 Abertawe - Coleg Gŵyr 15/06/14 11:00-13:00 a 14:00-16:00 Porthcawl - Pafiliwn y Grand 22/06/14 11:00-13:00 a 14:00-16:00 Treorci - Parc a Dâr 29/06/14 11:00-13:00 a 14:00-16:00 Y Fenni - Dance Blast 06/07/14 11:00-13:00 Casnewydd - Ballet Cymru 06/07/14 16:00-18:00 Caiff rhagor o ddyddiadau eu cyhoeddi'n fuan. Nid oes angen profiad dawnsio blaenorol arnoch i fynychu'r gweithdai na'r clyweliadau dilynol, gan wneud hwn yn gyfle anhygoel i fechgyn nad ydynt wedi dawnsio o'r blaen yn ogystal â'r rhai sydd â phrofiad ac sydd am gymryd cam cyffrous ymlaen yn eu gyrfaoedd dawnsio. Mae'r Llysgenhadon Dawns hefyd yn gallu cynnig gweithdai mewn ysgolion ledled De Cymru cyn diwedd tymor yr haf. Anfonwch e-bost at dance.ambassadors@wmc.org.uk i gael rhagor o wybodaeth. Dylai pawb sydd â diddordeb mewn mynychu'r gweithdai am ddim gwblhau a dychwelyd y ffurflen cymryd rhan sydd ar gael yn: www.wmc.org.uk/LOTFCaerdydd Mae'r Llysgenhadon Dawns yng Nghymru sy'n arwain y gweithdai, Siân Rowlands a James Morgan, wedi'u cyflogi gan Matthew Bourne i recriwtio'r dawnswyr ifanc a'u hyfforddi'n ddwys wrth baratoi ar gyfer perfformiadau mis Hydref. Mae Siân, o Ben-y-bont, wedi graddio o'r Northern School of Contemporary Dance ac mae wrthi'n astudio ar gyfer Diploma mewn Addysgu a Dysgu Dawns. Graddiodd James o'r Hammond School of Performing Arts yn 2011 ac ers hynny, mae wedi perfformio ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â gweithio fel Llysgennad Dawns Ieuenctid yn y Lowry, Manceinion. Dywedodd y Pennaeth Rhaglennu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Louise Miles-Crust: “Mae'r prosiect hwn yn agos iawn at fy nghalon. Rwy'n falch iawn ac yn teimlo'n gyffrous tu hwnt y byddwn yn gallu cynnig y cyfle gwych hwn i bobl ifanc ledled De Cymru drwy ein cydberthynas hir sefydledig â chwmni cynhyrchu Matthew Bourne, New Adventures, a'i elusen Re:Bourne. Roeddwn i'n ddigon ffodus i berfformio ar lwyfan pan oeddwn yn ifanc, a chredaf fod cymryd rhan yn gynnar yn y celfyddydau perfformio wedi bod yn ddylanwadol iawn wrth fy arwain i at yrfa gyffrous mewn Rhaglennu, felly gallaf weld y buddion a gynigir i bobl ifanc drwy'r prosiect hwn yn glir. Rwy'n siŵr y bydd perfformio mewn cynhyrchiad mawr, proffesiynol yn cael effaith ddofn arnynt, sy'n fy ngwneud i'n hapus tu hwnt y gallwn gynnig y cyfle gwych hwn a'r cynhyrchiad dawns rhagorol hwn fel rhan o'n dathliadau deng mlynedd." Wrth sôn am daith Lord of the Flies dywedodd Matthew Bourne: "Mae Lord of the Flies yn brosiect nas gwelwyd erioed o'r blaen ar raddfa fawr. Mae'r cydweithrediad unigryw hwn rhwng fy nghwmni cynhyrchu, New Adventures, a'r elusen, Re:Bourne yn caniatáu i filoedd o bobl ifanc a'u teuluoedd ledled y wlad brofi dawns o lygad y ffynnon, a hynny am y tro cyntaf i lawer ohonynt. Edrychaf ymlaen at flwyddyn gyffrous, a fydd yn newid bywyd i ambell un". Mae cwmni proffesiynol y sioe yn cynnwys dawnswyr New Adventures, sef Sam Archer fel 'Maurice', Luke Murphy fel 'Sam', Dominic North fel 'Ralph', Sam Plant fel 'Piggy', Alastair Postlethwaite fel 'Eri', Danny Reubens fel 'Jack' a Dan Wright fel 'Roger'. Ar gyfer yr addasiad dawns rhagorol hwn o Lord of the Flies, mae'r stori yn newid lleoliad o'r ynys ddiffaith y cyfeirir ati yn nofel glasurol William Golding, i theatr wag, lle mae grŵp o fechgyn ysgol yn cael eu gadael ar ôl. Heb unrhyw oedolion yn y cyffiniau, maent yn dechrau creu eu rheolau a'u gwareiddiad eu hunain, cyn bod trefn yn cael ei chwalu a'r stori'n cyrraedd anterth gwefreiddiol. Daw cymeriadau enwog Golding - Ralph, Piggy a Jack a'r bechgyn yn fyw gydag egni cignoeth a dwysedd emosiynol. Dyfeisiwyd a chyfarwyddwyd gan enillydd gwobrau Olivier a Tony, Matthew Bourne, coreograffwyd gan Scott Ambler a enwebwyd ar gyfer gwobr Olivier, dylunydd y set a'r gwisgoedd yw'r enillydd Gwobr Olivier, Lez Brotherston, cerddoriaeth gan Terry Davies, cynllun goleuo gan Chris Davey a chynllun sain gan Paul Groothuis. Y Cyfarwyddwyr Teithiol yw prif ddawnswyr New Adventures, Adam Galbraith ac Alan Vincent. Cefnogir y cynhyrchiad hwn gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal ag ymddiriedolaethau a rhoddwyr mawr eraill. Comisiynwyd yn wreiddiol gan Glasgow Theatres, rhan o'r Ambassador Theatre Group. Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais i fod yn rhan o'r gweithdai a dod yn rhan o gast Lord of the Flies, ewch i: www.wmc.org.uk/LOTFCaerdydd Bydd Lord of the Flies yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 22 a 25 Hydref 2014. Mae'r tocynnau yn amrywio o £17.50 i £30.50. Canllaw Oedran 8 + (Neb dan 5 mlwydd oed). I archebu tocynnau neu gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch 02920 63 6464. |
| Canolfan Mileniwm Cymru web site: www.wmc.org.uk/LOTFCaerdydd |
| e-mail: |
| Tuesday, May 20, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Dechrau chwilio am berfformwyr ifanc i gymryd rhan yn Lord of the Flies gan Matthew Bourne wrth gyhoeddi dyddiadau gweithdai