Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Hwyl am ddim i'r teulu cyfan bob dydd Sadwrn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru     

Hwyl am ddim i'r teulu cyfan bob dydd Sadwrn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Yr hanner tymor hwn, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn lansio ‘Clwb Milipwts’, sef rhaglen gyffrous o weithgareddau wythnosol i'r teulu cyfan bob dydd Sadwrn. O 24 Mai 2014, ymunwch â'r Milipwts - Ogi, Lecsi, Ponti a Dyfi - cymeriadau Canolfan Mileniwm Cymru sydd wrth eu boddau â diwylliant, wrth iddynt rannu eu brwdfrydedd am lenyddiaeth, dawns, cerddoriaeth a theatr drwy amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai am ddim.

Bydd Clwb Milipwts, a ysbrydolwyd gan fyd y celfyddydau perfformio, sioeau sy'n ymweld â'r Ganolfan a digwyddiadau diwylliannol cenedlaethol a rhyngwladol, yn rhoi cyflwyniad llawn hwyl i blant i fyd cyffrous y celfyddydau a diwylliant. Gan ddechrau ddydd Sadwrn 24 Mai, bydd Clwb Milipwts yn dathlu'r Gwanwyn gyda chymeriad Dyfi, malwoden sydd wrth ei bodd â gwisgo i fyny a pherfformio. Bydd gweithgareddau'r diwrnod yn seiliedig ar thema'r gwanwyn, ac fel rhan o ŵyl y Gwanwyn Cymru gyfan, sy'n dathlu creadigrwydd mewn blynyddoedd hŷn, mae'r Ganolfan yn annog plant i ddod â'u neiniau a'u teidiau am ddiwrnod o gyfansoddi caneuon, crefftau a dull Henna o baentio dwylo.

Byddwn hefyd yn dathlu gŵyl y Gwanwyn ddydd Sadwrn 31 Mai gyda gweithgareddau wedi'u hysbrydoli gan Ogi, y chwilen ddoeth sy'n ymddiddori mewn llyfrau. Bydd digonedd o amser i adrodd straeon a darllen llyfrau, ynghyd â 'choeden gofio' hudol, lle y gall plant blannu eu hoff atgofion. Ar 21 Mehefin, bydd Ogli yn dychwelyd i ddathlu Wythnos y Ffoaduriaid gyda rhagor o straeon, barddoniaeth a map enfawr o'r byd i'w archwilio.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill y rhaglen wythnosol bydd diwrnod ar thema War Horse ar 28 Mehefin yn llawn o bypedau ac wedi'i ysbrydoli gan gymeriad Lecsi, sy'n dipyn o ddawnswraig. Ar 23 Awst, bydd Ponti, y chwilen sy'n dwli ar dechnoleg a cherddoriaeth yn ymuno â ni mewn gweithdai bod yn DJ er mwyn dathlu Berw'r Bae.

Dywedodd Louise Miles-Crust, Pennaeth Rhaglennu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru: "Mae'n bleser gennym allu ymestyn arlwy'r Ganolfan i'r teulu i gynnwys diwrnod o weithgareddau am ddim bob wythnos, gan helpu i sicrhau mai'r Ganolfan yw'r lle perffaith i ymweld ag ef gyda'r plant ar y penwythnos. Mae ein hardal gweithgareddau sy'n addas i blant, Cartre'r Milipwts, wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae'n ffordd wych o ennyn diddordeb plant bach ym myd y celfyddydau perfformio. Mae'n wych ein bod bellach yn gallu ymestyn ein harlwy i'r teulu gyda rhaglen llawn hwyl a chyffrous o weithdai a gweithgareddau i ennyn diddordeb plant ymhellach yn y celfyddydau.

Cynhelir ‘Clwb Milipwts’ bob dydd Sadwrn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 24 Mai 2014. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.wmc.org.uk/makeityours/families/?lang=cy-GB
Canolfan Mileniwm Cymru  
web site
: www.wmc.org.uk/makeityours/families/?lang=cy-GB

e-mail:
Wednesday, May 21, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk