Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Katie Hall yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru fel Maria yn West Side Story     

Katie Hall yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru fel Maria yn West Side Story
A hithau wedi difyrru cynulleidfaoedd gyda'i pherfformiad penigamp fel Christine yn Phantom of the Opera yn 2012, bydd Katie Hall yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru i chwarae'r arwres, Maria, yn West Side Story yr haf hwn [12-23 Awst 2014]. Bydd yn arwain cast y cynhyrchiad hynod lwyddiannus ochr yn ochr â Louis Maskell, fel ei chariad anlwcus, Tony.

Mae Katie Hall hefyd yn adnabyddus fel un o'r cystadleuwyr 'boot camp' ar gyfer rôl 'Nancy' yn "I'd Do Anything" ac fel un o'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol wrth i Andrew Lloyd Webber chwilio am gystadleuydd ar gyfer yr Eurovision ar y rhaglen "Your Country Needs You" a ddarlledwyd ar BBC1 hefyd.

Mae Louis Maskell, a fydd yn serennu gyda Katie fel Tony, wedi ymddangos yn y daith genedlaethol “Scrooge -The Musical” a “Iolanthe” yn Wilton’s Music Hall.

Yn arwain y cast hefyd bydd Djalenga Scott fel Anita a Jack Wilcox fel Riff. Mae Djalenga Scott wedi ymddangos yn “Chicago” yn y West End yn ogystal â thaith genedlaethol “Flashdance - The Musical” a thaith Ewropeaidd “The Rocky Horror Show”. Gwelwyd Jack Wilcox yn fwyaf diweddar yn “Singin’ in the Rain” yn y Palace Theatre yn y West End. Mae ei rolau eraill yn y West End yn cynnwys "Wicked" a "Shoes".

Fel un o'r sioeau llwyfan mwyaf llwyddiannus erioed, mae West Side Story wedi gwerthu allan mewn dinasoedd rhyngwladol gan gynnwys Paris, Sydney, Melbourne, Tokyo, Berlin, Madrid, a Beijing. Mae'r cynhyrchiad ysblennydd nawr yn dychwelyd i'r DU ar ôl pum mlynedd, gan addo coreograffi ysgytwol a fersiynau bythgofiadwy o ganeuon enwog y sioe gerdd.

Yn seiliedig ar stori Romeo a Juliet, mae West Side Story wedi'i lleoli ar yr Upper West Side yn Manhattan ac mae'n edrych ar y gystadleuaeth rhwng dau gang yn eu harddegau; un yn wyn a'r llall yn Buerto Ricaidd. Pan mae Tony yn syrthio mewn cariad â Maria, chwaer arweinydd y gelyn, gweler dimensiwn newydd i'r elyniaeth. Wrth i berthynas Tony a Maria ddatblygu, gwelir dechrau taith angheuol dan gysgod trais a chasineb. Mae'r gerddoriaeth yn cynnwys y caneuon cofiadwy a phoblogaidd ‘Maria’, ‘Tonight’, ‘Somewhere’, ‘America’ a ‘I Feel Pretty’.

Ers agor ar Broadway yn 1957, mae West Side Story wedi newid trywydd sioeau cerdd ac mae'n dal i fod yn un o'r sioeau mwyaf llwyddiannus mewn hanes. Bu fersiwn ffilm 1961 yn llwyddiannus iawn hefyd ac enillodd ddeg Gwobr Academi.

Caiff y cynhyrchiad ei gyfarwyddo a'i goreograffeiddio gan Joey McKneely gan ddefnyddio coreograffi gwreiddiol llawn Jerome Robbins. Joey yw cyn-gynorthwyydd Jerome Robbins. Mae wedi gweithio'n helaeth ar Broadway lle mae ei waith coreograffi yn cynnwys “Smokey Joe’s Café” (a enwebwyd am Wobr Tony) a “The Boy From Oz” gyda Hugh Jackman. Mae ei gredydau eraill yn cynnwys cynhyrchiad Hal Prince o “Whistle Down the Wind” gan Andrew Lloyd Webber a chynhyrchiad Nicholas Hytner o “Twelfth Night”.

Mae West Side Story, a gafodd ei gyfarwyddo a'i goreograffeiddio gan Jerome Robbins yn wreiddiol, yn cynnwys cerddoriaeth gan Leonard Bernstein a geiriau gan Stephen Sondheim. Mae hefyd wedi ysbrydoli llyfr gan Arthur Laurents.

Bydd West Side Story yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 12 a 23 Awst 2014. Mae'r tocynnau yn amrywio o £19.50 i £48.50. Canllaw Oedran 11 + (Neb dan 2 mlwydd oed). I archebu tocynnau neu gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch 02920 63 6464.
 
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Wednesday, June 4, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk