Yn dilyn ymateb “anhygoel” yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, mae monolog bwerus a dirdynnol gan yr awdur Aled John Williams yn mynd ar daith o gwmpas Cymru. Ffion Dafis sy’n perfformio yn Anweledig, act gyntaf o ddrama newydd sydd yn ymateb i brofiadau cleifion hen ysbyty meddwl Dinbych. Mae’r fonolog, sy’n cael ei chyfarwyddo gan Iola Ynyr, yn dilyn profiad dynes ganol oed yn wynebu iselder dwys. Mae anallu’r bobl o’i chwmpas i ddeall y salwch yn ategu at wewyr meddwl Glenda. Disgrifiodd yr adolygydd theatr, Lowri Haf Cooke, y perfformiad fel “uchafbwynt Eisteddfod Genedlaethol Dinbych.” “Roedd pobl yn fodlon dod ata i a dweud bod y geiriau wedi eu cyffwrdd,” meddai Ffion Dafis, sydd newydd orffen cyfarwyddo ei drama theatr gyntaf, ‘Y Negesydd’. “Mi ddywedodd un hogan wrtha i ei bod hi wedi dioddef ers blynyddoedd o iselder a’i bod hi wedi methu rhoi geiriau iddo ac yn methu esbonio, a bod Aled wedi ffeindio’r geiriau i esbonio sut oedd hi’n ei deimlo.” 
Cwmni’r Frân Wen sydd wedi ymateb i gais gan ddoctoriaid seiciatryddol ym Mangor i gael golwg ar rai o gofnodion meddygol yr hen ysbyty meddwl yn Ninbych — a hynny er mwyn creu gwaith creadigol newydd. 
Dyma nhw’n meddwl yn syth am Aled Jones Williams fel un â’r gallu a’r sensitifrwydd — ac yn wir y profiad hefyd — i greu drama bwerus o ffeithiau meddygol moel. 
Dim ond cam cyntaf yn y project yw hwn — act gyntaf mewn tair. Drama gyfan yw’r nod a fydd yn rhoi llais a llwyfan i salwch sydd yn rhy aml yn cael ei guddio a’i gadw o’r golwg. Anweledig yw teitl y project sy’n parhau hefo Cwmni’r Frân Wen. Gwneud yr anweledig yn weladwy yw eu bwriad. “Dwi’n gobeithio mai dim ond y gwreiddiau sydd wedi cael eu plannu yn yr Eisteddfod, ac y bydd y blagur a’r blodau yn cael eu rhoi ar y daith yma,” ychwanegodd Ffion. I gyd-fynd â’r daith ddiweddaraf , mae Lisa Jên Brown wedi ei chomisiynu i gyfansoddi cerddoriaeth gefndirol i’r perfformiad. Mae nifer y gynulleidfa wedi ei chyfyngu ym mhob perfformiad, felly archebwch docynnau yn fuan i osgoi cael eich siomi. * Am fanylion www.anweledig.com. Mae’r daith, sydd yn cychwyn ar y 10fed o Orffennaf, yn mynd i Lanbedrog, Caerfyrddin, Caernarfon, Llangefni, Rhuthun, Aberystwyth, Caerdydd a Llandudno. MANYLION Y DAITH 10/07/14 | Plas Glyn Y Weddw, Llanbedrog | 01758 740763 | 7.30pm 11/07/14 | Oriel Myrddin, Caerfyrddin | 01248 715048 | 7.30pm 14/07/14 | Galeri, Caernarfon | 01286 685222 | 8pm 15/07/14 | Galeri, Caernarfon | 01286 685222 | 8pm 16/07/14 | Neuadd y Dref, Llangefni | 01248 715048 | 7.30pm 17/07/14 | Canolfan Gymunedol Llanfwrog, Rhuthun | 01248 715048 | 7.30pm 18/07/14 | Canolfan Arad Goch, Aberystwyth | 01970 617998 | 7.30pm 22/07/14 | Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd | 01248 715048 | 7.30pm 23/07/14 | Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd | 01248 715048 | 7.30pm 25/07/14 | Oriel Mostyn, Llandudno | 01248 715048 | 7.30pm |
| Cwmni’r Frân Wen web site: www.anweledig.com |
| e-mail: |
| Thursday, June 12, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
