Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

BYDD GŴYL GENEDLAETHOL CELFYDDYDAU I’R TEULU 2014 YN DOD A’R CELFYDDYDAU’N FYW I DEULUOEDD YNG NGHYMRU AC AR DRAWS Y DU     

BYDD GŴYL GENEDLAETHOL CELFYDDYDAU I’R TEULU 2014 YN DOD A’R CELFYDDYDAU’N FYW I DEULUOEDD YNG NGHYMRU AC AR DRAWS Y DU Yn dilyn llwyddiant ysgubol Gŵyl Genedlaethol Celfyddydau i’r Teulu 2013 lle bu dros 500,000 o bobl yn cymryd rhan ar draws Cymru a’r DU, bydd Gŵyl Gelfyddydau i’r Teulu 2014 yn rhedeg ei hail flwyddyn o 17 Hydref hyd at 2 Tachwedd, gyda’r awdur enwog a chyn-Fardd Plant Michael Morpurgo wedi’i gyhoeddi’n noddwr.

Bydd Gŵyl 2014 yn dod ag amrywiaeth o ddigwyddiadau celfyddydau o ansawdd da i’r teulu, llawer ohonynt am ddim, ar draws Cymru a gweddill y DU, i ddinasyddion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Nod yr Ŵyl Gelfyddydau i’r Teulu yw cynyddu maint ac ystod y celfyddydau o ansawdd da sydd ar gael i deuluoedd ar draws y wlad ac fe’i sefydlwyd i feithrin diddordeb a brwdfrydedd pobl yn y celfyddydau am eu heinioes.

Lansiwyd yr ŵyl yn 2013 fel rhan o’r Ymgyrch Celfyddydau i’r Teulu, menter sy’n cynnwys chwe chorff aelodaeth cenedlaethol yn y celfyddydau a’i chefnogi drwy ddefnyddio cyllid cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr, gyda gweithgarwch yng Nghymru’n derbyn cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn ôl Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae’r Ymgyrch Celfyddydau i’r Teulu’n darparu ffocws derbyniol iawn ar yr holl gyfleoedd cyffrous sydd gan y celfyddydau yng Nghymru i’w cynnig i deuluoedd a phobl ifainc. Mae annog pobl o bob oed i fwynhau a chyfranogi o’r celfyddydau’n rhan sylfaenol o’n gwaith. A ph’un ai aelod o’r gynulleidfa neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r digwyddiad ydych chi, rydyn ni i gyd yn elwa ar gynulleidfaoedd mwy o faint ar gyfer digwyddiadau rhagorol. Felly rydyn ni wrth ein boddau cefnogi gŵyl sy’n dwyn at ei gilydd raglen o ddigwyddiadau sydd nid yn unig yn hwyl i’r teulu cyfan, ond sydd hefyd yn eu cyflwyno i gelfyddydau arloesol, ysbrydoledig ac ymgysylltiol.”

Bydd Gŵyl Gelfyddydau i’r Teulu 2014, sydd i’w chynnal yn ystod gwyliau hanner tymor yr hydref, yn cynnwys dros 2,000 o ddigwyddiadau ledled Cymru a’r DU. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau celfyddydau o safon ar gael i deuluoedd o bob oed, gan gynnwys syrcas, dawns, llenyddiaeth, cerddoriaeth, theatr a chelfyddydau gweledol. Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Artes Mundi 6 a Llenyddiaeth Cymru yw rhai’n unig o’r sefydliadau sy’n cynllunio gweithgareddau ar gyfer digwyddiadau’r Ŵyl yng Nghymru.

Mae Michael Morpurgo, cyn-Fardd Plant ac awdur y llyfr poblogaidd War Horse sydd ar hyn o bryd yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru’n sôn am ei rôl newydd fel Noddwr yr Ŵyl:

“Pleser o’r mwya i mi yw cael bod yn Noddwr Gŵyl Gelfyddydau i’r Teulu 2014. Mae ystod anferth y digwyddiadau a gyflwynir ar draws y DU yn golygu y bydd rhywbeth i blesio a’i rannu â holl aelodau’r teulu ar draws pob cenhedlaeth.

“Mae llawer o’m llyfrau wedi dod yn ddramâu, yn operâu ac yn berfformiadau bale ac felly rydw i wedi gallu gweld drosta i fy hun sut gall profiadau diwylliannol byw weddnewid, llesmeirio a difyrru, gan agor y dychymyg i ddiddordeb einioes yn y celfyddydau.

“Dw i’n annog teuluoedd i wneud diwrnod – neu wythnos – ohoni’n blasu’r digwyddiadau hwyliog, diddorol a difyr yn eich ardal yn ystod hanner tymor yr hydref eleni.”

Mae amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau arloesol a rhagweithiol i’r holl deulu eisoes wedi cael eu cadarnhau. Ymhlith y digwyddiadau sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru y mae Datblygu Dylan dan arweiniad Llenyddiaeth Cymru. Yn rhan o ddathliadau swyddogol Gŵyl 100 Dylan Thomas gan dderbyn cymorth gan yr Adran Addysg a Sgiliau, bydd Datblygu Dylan yn defnyddio hud a lledrith geiriau Dylan Thomas i ysbrydoli pobl ifainc Cymru.

Bydd gan Artes Mundi, y sefydliad celfyddydau ac arddangosfa eilflwydd sydd â ffocws rhyngwladol, dîm o Dywysyddion Byw wrth law i gefnogi teuluoedd wrth ddehongli’r gwaith yn ystod arddangosfa Artes Mundi 6 yn ogystal â digwyddiadau’r Darlun Mawr yn ystod yr agoriad, lle gwahoddir teuluoedd i edrych ar wahanol dechnegau arlunio ac i gyfrannu i gywaith celf cyffrous sy’n ymateb i Arddangosfa Artes Mundi 6.

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru hefyd yn ymuno â’i gilydd ar gyfer Cyngerdd Calan Gaeaf Ysbryd-oledig i’r Teulu. Bydd y cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth sy’n llawn darnau clasurol iasol gan gyfansoddwyr sy’n cynnwys yn eu plith Saint-Saëns, Dukas, Grieg a John Williams ac amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu cyn y cyngerdd.

Y llynedd, bu 928 o sefydliadau celfyddydau ar draws y DU yn cymryd rhan yn yr Ŵyl gan gyrraedd ffigurau cynulleidfa ymhell dros 500,000 yn ystod y pythefnos o weithgareddau, gyda sefydliadau celfyddydau’n sôn am gynnydd mewn diddordeb a theuluoedd yn mynychu digwyddiadau’n barhaus.

Yn ôl Kathryn McDowell CBE, Cadeirydd yr Ymgyrch Celfyddydau i’r Teulu,: “Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, rydyn ni wrth ein boddau cael cyflwyno rhaglen sy’n fwy amrywiol byth yn ystod yr ail Ŵyl Gelfyddydau i’r Teulu. Ein gobaith yw ymgysylltu â theuluoedd ar draws y DU gyda’r wledd o raglennu celfyddydau uchel ei safon sydd wir yn cynnig rhywbeth i bawb. O gerddoriaeth a dawns, i baentio a theatr, bwriad yr amrywiaeth eang o ddigwyddiadau celfyddydau sydd ar gynnig drwy’r Ŵyl yw croesawu ac ysbrydoli grwpiau teuluol o bob oedran ac o bob cefndir.”

Yn ôl David Brownlee, Cyfarwyddwr Ymgyrch Celfyddydau i’r Teulu a Chyfarwyddwr Gweithredol UK Theatre: “Hyd yn hyn, mae’r Ymgyrch wedi gwneud gwaith gwych wrth helpu sefydliadau celfyddydau i ganolbwyntio ar anghenion ymarferol teuluoedd ac rydym wrth ein boddau gweld cynifer o sefydliadau’n ymrwymo i Safonau Celfyddydau i’r Teulu, Dw i’n gobeithio bod ansawdd ac amrywiaeth y cynnig artistig yn yr Ŵyl eleni’n ysbrydoli sefydliadau i ddyfeisio rhaglennu sy’n fwy arloesol a chreadigol i oedolion a phlant i’w fwynhau gyda’i gilydd drwy gydol y flwyddyn.”

Mae rhestr ddigwyddiadau’r Ŵyl Gelfyddydau i’r Teulu bellach yn fyw ar www.familyartsfestival.com lle gall teuluoedd chwilio am ddigwyddiadau yn eu hardaloedd ac yn ôl genre, ystod oedran a diddordeb, gyda digwyddiadau newydd yn cael eu lanlwytho’n ddyddiol, a bydd y rhaglen gyflawn ar gael o fis Medi ymlaen.
 
web site
: www.familyartsfestival.com

e-mail:
Monday, June 23, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk