Aeth llygoden am dro drwy’r goedwig dywyll, drwchus... Mae hoff anghenfil pawb The Gruffalo yn dod yn ôl i Gaerdydd wrth i chi ddarllen hwn. O ddydd Iau 10 i ddydd Sul 13 Gorffennaf bydd y cynhyrchiad poblogaidd o’r llyfr lluniau byd-enwog gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler yn diddanu cynulleidfaoedd gyda chaneuon, hwyl a dychryn! Yn berffaith i blant dros 3 oed, mae The Gruffalo wedi cael adolygiadau hael iawn am y cymeriadau hoffus a’r stori glyfar. Mae’n adrodd hanes llygoden ddewr, sy’n mentro drwy’r goedwig dywyll i chwilio am gneuen brin. Daw ar draws nifer fawr o greaduriaid sydd am ei fwyta, ond mae stori'r Llygoden am fwystfil dychmygol, y Gruffalo, yn eu dychryn. Ond yn fuan, fel y gwyr plant y gynulleidfa, mae’r Llygoden ei hun yn cael sypreis enfawr wrth i freuddwydion droi’n realiti... Mae’r perfformiad o The Gruffalo yn cydbwyso storia, cynnwys y gynulleidfa, cerddoriaeth a chomedi. Yn 55 munud o hyd, bydd y bwystfil o sioe hon yn difyrru plant ac oedolion o’r dechrau i’r diwedd, gan roi cyfle perffaith iddynt ddianc i fyd dychymyg. Mae The Gruffalo yn y Theatr Newydd, Caerdydd o ddydd Iau 10 i ddydd Sul 13 Gorffennaf. Mae tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £8.50 i £12.50. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. *Codir ffi fechan am bob tocyn a werthir ar-lein The Gruffalo Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Iau 10 i ddydd Sul 13 Gorffennaf 2014 Dydd Iau 1.30pm; dydd Gwener i ddydd Sul 11.00am ac 1.30pm Tocynnau: £8.50 - £12.50 Swyddfa Docynnau’r Theatr Newydd 029 2087 8889 Archebu ar-lein www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, June 23, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
