Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Llwyfannu gwaith buddugol y Fedal Ddrama a sioe newydd ar daith i blant bychain     

Llwyfannu gwaith buddugol y Fedal Ddrama a sioe newydd ar daith i blant bychain

Drama fuddugol y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol 2013, fydd cyd-gynhyrchiad Sherman Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol ar y maes eleni. Bydd Dŵr Mawr Dyfn, gan Glesni Haf Jones, yn cael ei berfformio yn y Cwt Drama ar faes yr Eisteddfod, ac yn cael ei gyfarwyddo gan Sara Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd Dŵr Mawr Dyfn yn cael ei berfformio yn y Cwt Drama o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac mae modd prynu tocynnau ar gyfer y cynhyrchiad trwy’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r ddrama yn cael ei pherfformio dan faner AMRWD Sherman Cymru. Theatr ddiffwdan yw RAW/AMRWD lle mae’r ysgrifennu yn hawlio prif sylw’r noson.

Bydd y cast yn cynnwys Lowri Gwynne, Victoria Pugh a Manon Wilkinson. Drama am ferch ifanc o’r enw Tryweryn yw Dŵr Mawr Dyfn. Wrth iddi ail-fyw atgofion, cyfrinachau a chelwyddau, daw ysbrydion ei gorffennol yn ôl – ac mae am ddarganfod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd o dan donnau oer y llyn. Dyma berfformiad cyntaf drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama, Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau, 2013.

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru;

“Mae’n bleser gan y cwmni lwyfannu Dŵr Mawr Dyfn ar y maes eleni, a hynny ar y cyd â Sherman Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Fel un sydd wedi beirniadu’r gystadleuaeth yn y gorffennol, mae’n bleser i mi’n bersonol ein bod ni rŵan fel cwmni yn medru cynnwys y ddrama yma yn rhaglen y Cwt Drama eleni. Mae Glesni’n awdur ifanc talentog iawn, ac mae wedi bod yn braf gweld y gwaith yn datblygu yn ystod y broses o gael y ddrama yn barod i’w llwyfannu, wrth i Glesni weithio gyda Mared Swain (Cyfarwyddwr Cyswllt Sherman Cymru) i ddechrau ac yna Sara Lloyd, a fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad. Braf hefyd yw mai dyma fydd prosiect cyntaf Sara fel cyfarwyddwr ers iddi ymuno â staff y cwmni. Mae cefnogi a datblygu crefft artistiaid ac awduron newydd a datblygu gwaith gwreiddiol ar gyfer y llwyfan, yn greiddiol i weledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru.”

Daw Glesni Haf Jones o’r Wyddgrug yn wreiddiol ac mae nawr wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, ac yn gweithio i Swyddfa’r Wasg S4C. Dyma ei drama lawn gyntaf ar gyfer y llwyfan. Dywedodd Glesni;

“Rwy’n hynod o falch bod Theatr Genedlaethol Cymru yn perfformio Dŵr Mawr Dyfn yn yr Eisteddfod. Mae hi’n freuddwyd i unrhyw ddramodydd ifanc weld drama y mae wedi ei hysgrifennu yn cael ei llwyfannu – ac rwy’n edrych ymlaen at weld fy nrama yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf. Mae Mared Swain o Sherman Cymru wedi bod yn ysbrydoledig yn y broses o ddatblygu’r ddrama, ac rwyf wedi gwerthfawrogi ei chyngor a’i phrofiad, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â’r cyfarwyddwr Sara Lloyd ar y ddrama.”

Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru;
“Rydyn ni’n hynod o falch bod drama fuddugol Cystadleuaeth y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol 2013 yn cael ei llwyfannu eleni, a’n bod yn medru cydweithio â Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru i sicrhau hynny. Mae’n braf gweld datblygiad i’r gwaith buddugol a gobeithio y bydd ymwelwyr i’r maes yn gwneud y mwyaf o’r cyfle i weld y gwaith arbennig yma.”


Mae gan Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru gynlluniau i gydweithio ymhellach yn y dyfodol hefyd, a hynny ar daith Yr Hwyaden Fach Hyll. Dyma yw sioe Nadolig Sherman Cymru ar gyfer cynulleidfa ifanc (o dan saith oed) eleni, ac fe fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i fynd â’r sioe ar daith o amgylch Cymru ym mis Ionawr 2015. Katherine Chandler fydd yn ysgrifennu’r ddrama lwyfan a Mererid Hopwood yn gyfrifol am y cyfieithiad i’r Gymraeg. Bydd y sioe yn teithio de Cymru yn ystod Tachwedd a Rhagfyr, yna yn rhedeg yn Theatr y Sherman dros gyfnod y Nadolig ac ar daith o amgylch Cymru ym mis Ionawr. Sara Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru unwaith eto fydd cyfarwyddwr y prosiect. Dyma fydd ei hail brosiect cyfarwyddo fel aelod o staff y cwmni.




Dŵr Mawr Dyfn
4 – 8 Awst 2014, Cwt Drama, Maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar
5.30pm (heblaw dydd Mercher, 7pm)
Tocynnau: o’r Maes yng Nghaffi’r Theatrau, neu trwy’r Eisteddfod: www.eisteddfod.org | 0845 4090 800
 
web site
: www.eisteddfod.org

e-mail:
Wednesday, June 25, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk