Bydd y cynhyrchiad llwyddiannus Dyled Eileen gan Theatr Genedlaethol Cymru a aeth ar daith yn ystod 2013 yn cael ei llwyfannu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni. Aeth y cynhyrchiad hwn, yn seiliedig ar waith gwreiddiol gan Angharad Tomos, ar daith ar draws Cymru y flwyddyn ddiwethaf ond bydd yn mynd yn ôl i’w gynefin eleni wrth iddo gael ei berfformio yn Sir Gâr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae’r ddrama’n olrhain hanes Eileen a Trevor Beasley o Langennech ger Llanelli a’u brwydr dros hawliau i’r Gymraeg. Llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhen Llŷn gododd ymwybyddiaeth Eileen Beasley o'i Chymreictod gyntaf. Merch ysgol bymtheng mlwydd oed oedd hi ar y pryd, ac yn methu credu'r atgasedd tuag at y Tri ym Mhenyberth. Doedd dim llawer o drafod gwleidyddiaeth gartref ar y fferm yn Hendy Gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin, ble y’i magwyd, ond fe welodd bryd hynny'r anghyfiawnder roedd Cymru a'r Gymraeg yn eu dioddef dan law'r awdurdodau. Brwydrodd Eileen a Trevor yn erbyn biliau trethi uniaith Saesneg a barodd iddynt golli eu heiddo bron iawn i gyd i'r beilïaid wrth iddynt glirio'u parlwr ddarn wrth ddarn. Mae'r portread twymgalon hwn yn dod â chyfnod cythryblus y 50au yn fyw - cyn darlith radio enwog Saunders Lewis - ac yn ein tywys i gofio aberth y cwpwl ifanc a'u brwydr ddi-ildio dros degwch i'r Gymraeg. Bydd Rhian Morgan, enillydd y wobr am yr Actores Orau yn 2013 yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru am ei phortread o Eileen Beasley, yn dychwelyd i chwarae’r brif ran. Ceri Murphy, ymddangosodd yn ddiweddar ar gyfres S4C, 35 Diwrnod fydd yn dychwelyd i chwarae Trefor Beasley a Gwenllian Higginson yn ymuno o’r newydd i bortreadu’r Eileen Beasley ifanc. Mae bod yn rhan o’r cynhyrchiad yma am y tro cyntaf yn brofiad cyffous iawn i Gwenllian ac yn stori sy’n agos iawn at ei chalon. Dywedodd Gwenllian; “Roedd y Beasleys yn ffrindiau i’r teulu ac mae’n fraint cael portreadu eu hanes. Rwy’n cofio Eileen ers pan oeddwn i’n ferch fach ac mae ei stori wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi. Mae’n bleser personol i mi hefyd i ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i fynd i afael â’r gwaith ac i berfformio i gynulleidfa lleol y Beasleys.” Mae ymarferion wedi dechrau’n barod yn Y Llwyfan, cartref Theatr Genedlaethol Cymru, gydag Elen Bowman yn cyfarwyddo’r prosiect unwaith eto. Dywedodd Elen; “Gyda’r holl waith ymchwil a wanethom ni ar hanes y Beasleys y flwyddyn ddiwethaf ac wrth weld yr actorion yn treiddio i’r cymeriadau yma, dwi’n teimlo fy mod wedi dod i nabod Eileen a Trevor yn dda iawn. Roedd ei aberth dros yr iaith yn weithred rwy’n edmygu’n fawr, ac mae mynd â’r cynhyrchiad i’w hardal nhw yn bwysig i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn ymwybodol o’u hanes.” Bydd Dyled Eileen yn cael ei pherfformio yng Ngholeg Sir Gâr, Campws y Graig rhwng y 4ydd a’r 8fed o Awst. |
| web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Thursday, July 3, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
