Mae Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi rhaglen y Pentref Drama ar gyfer Eisteddfod Sir Gâr. Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod greu ardal arbennig ar gyfer y gweithgareddau drama a dyma fydd cartref y Cwt Drama, Caffi’r Theatrau a’r Theatr.Theatr Genedlaethol Cymru yw prif noddwr y Pentref Drama, ac fe fydd amrywiaeth o ddigwyddiadau ar hyd yr wythnos yn amrywio o ddarlleniadau anffurfiol, cystadlaethau, perfformiadau a sgyrsiau. Gwyn Eiddior fydd yn cynllunio ardal y Pentref Drama. Mae’r Cwt Drama yn cynnig lleoliad newydd ar gyfer perfformiadau ar y Maes, gan adeiladu ar lwyddiant y Theatr a Chaffi’r Theatrau dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd rhaglen y Cwt Drama yn cynnwys perfformiadau o Dŵr Mawr Dyfn, gwaith buddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2013, gan Glesni Haf Jones ac wedi’i gyfarwyddo gan Sara Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd Dŵr Mawr Dyfn yn cael ei gynhyrchu ar y cyd rhwng Sherman Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol. Dyma’r tro cyntaf i berfformiad o Ddrama Fuddigol custadleuaeth y Fedal Ddrama gael ei gyflwyno ar y Maes. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys darlleniadau o weithau mewn datblygiad gan Mari Emlyn, Sera Moore Williams a Geraint Lewis, perfformiadau gan Theatr Bara Caws a Chwmni Theatr 3D, ffrydiad byw o ‘Dim Diolch!’ gan Gwmni’r Frân Wen o Ŵyl Ymylol Caeredin, Arddangosfa Cof Sir Gâr, a llawer mwy. Bydd y Theatr, yn ôl ei arfer, yn cynnwys arlwy theatr trwy gydol yr wythnos, gyda sioeau dyddiol i bobl ifanc a theuluoedd, a pherfformiadau gan gwmnïau amrywiol fydd yn cynnig rhywbeth gwahanol i bawb. Dyma hefyd fydd cartref y gystadleuaeth actio drama fer sydd yn atyniad poblogaidd ar y Maes yn flynyddol. Yn ogystal â hyn i gyd bydd Cwmni Oni Bai yn perfformio addasiad newydd T. James Jones o Dan y Wenallt. Hwn fydd y perfformiad cyhoeddus cyntaf o’r addasiad yma o ddrama radio Dylan Thomas ‘Under Milk Wood’. Mae Caffi’r Theatrau’n fenter ar y cyd rhwng y cwmnïau cynhyrchu a theatrau Cymraeg, ac yn fan am baned a sgwrs, ac i gael gwybod mwy am y bwrlwm o waith sy’n cael ei gynhyrchu gan yr holl gwmnïau drwy’r flwyddyn. Thema’r Caffi fydd ‘Cefn Llwyfan’ a bydd modd gweld casgliad o bropiau gan y cwmnïau cynhyrchu amrywiol. Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru; “Rydym ni’n falch iawn bod ardal y Pentref Drama wedi ei ddatblygu eleni, a bod mwy o ofodau er mwyn cynnal gweithgareddau theatr. Mae perfformiadau drama yn digwydd oddi ar y Maes hefyd, wrth gwrs, yn ôl yr arfer, gan gynnwys cynhyechiad y Theatr Genedlaethol o Dyled Eileen yn Coleg y Graig. Ond mae digwyddiadau hyn yn y Pentref Drama ar y Maes yn adlewyrchu’r galw am theatr o bob math - i blant ac oedolion - ac mae’n braf bod cymaint o gwmniau yn cyfrannu at y bwrlwm gweithgaredd. Rydym ni’n falch iawn bod y bartneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi arwain at greu gofod perfformio newydd ar y Maes eleni. Mae amrywiaeth rhaglen y Cwt Drama yn gyfle i ddangos gwaith ar waith, yn gyfle i artistiaid theatr sydd am arbrofi i ddangos ei gwaith o flaen cynulleidfa, i roi llwyfan priodol a theilwng i brosiectau ar raddfa fechan, a sgyrsiau ar waith theatr yn gyffredinol. Dwi’n hyderus fod y rhaglen ar gyfer yr holl Bentref Drama’n cynrychioli’r amrywiaeth o weithgaredd sydd yn digwydd ar draws y sector drwy’r flwyddyn.” Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: “Rydym yn falch iawn bod yr Eisteddfod yn cynnig cyfle i gymaint o gwmnïau profesiynnol ac amatur i berfformio ar Faes yr Eisteddfod. Rydym hefyd yn gyffrous iawn am yr arlwy sydd i’w gynnig ym maes y ddrama eleni. Rydym yn ddiolchgar iawn i Theatr Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth.” Bydd y Cwt Drama hefyd yn adnodd a fydd ar gael ar adegau eraill o’r flwyddyn ac felly’n atgyfnerthu’r berthynas rhwng y ddau sefydliad cenedlaethol drwy gydol y flwyddyn. Ceir manylion llawn rhaglen y Pentref Drama ar wefan yr Eisteddfod; www.eisteddfod.org.uk. |
| web site: www.eisteddfod.org.uk |
| e-mail: |
| Friday, July 11, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi rhaglen y Pentref Drama ar gyfer Eisteddfod Sir Gâr. Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod greu ardal arbennig ar gyfer y gweithgareddau drama a dyma fydd cartref y Cwt Drama, Caffi’r Theatrau a’r Theatr.