![]() Yr wythnos hon, bydd cast cymunedol Chwalfa yn cyfarfod am y tro cyntaf i gychwyn ar yr ymarferion. Heddiw, (15 Gorffennaf 2014) bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cyfarfod â’r gymuned sydd yn rhan o Chwalfa yng Nghapel Jerusalem, Bethesda ar gyfer cyfarfod croeso i’r prosiect, a chychwyn yr ymarferion. Chwalfa, cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Pontio a Chwmni’r Frân Wen, fydd cynhyrchiad agoriadol Theatr Bryn Terfel yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Pontio ym Mangor, yn mis Medi 2014. Mae Chwalfa yn olrhain hanes Streic Fawr Chwarel y Penrhyn yn Nyffryn Ogwen, y streic hiraf erioed yn hanes y Deyrnas Unedig, a barodd am dair mlynedd rhwng 1900 a 1903. Mae’r ddrama yn addasiad gan Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes, ac fe fydd y cynhyrchiad yn cynnwys actorion proffesiynol ynghyd ag aelodau o’r gymuned leol. Bydd hyd at 50 o’r gymuned leol yn rhan o’r cast cymunedol, fydd yn cynnwys ensemble, corws a cherddorion, ac mae hyn yn dilyn proses gyfweld a gynhaliwyd ym Methesda a Bangor yn ddiweddar. Bydd y cast cymunedol, sy’n cynnwys pobl o bob oed, yn cychwyn yr ymarferion yr wythnos yma cyn i’r cast proffesiynol gychwyn yr ail wythnos ym mis Awst. Bydd y rhagddangosiad o Chwalfa (sef y perfformiad cyntaf o flaen cynulleidfa) ar yr 17eg o Fedi cyn y noson agoriadol swyddogol ar y 18fed o Fedi. Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru; “Mae cael creu’r cynhyrchiad cyntaf erioed i’w lwyfannu yn Theatr Bryn Terfel yn fraint aruthrol, ac yn gyfle unigryw i greu digwyddiad y bydd pobl yn ei gofio, gobeithio, am amser maith i ddod. Mae’n fraint hefyd i gael gweithio gyda chymuned Dyffryn Ogwen a’r ardal i allu cyflawni hyn. Rydym wedi cael croeso arbennig yn yr ardal yn barod wrth i ni lawnsio’r prosiect yng Nghapel Jerusalem nôl ym mis Mehefin. Mae’n gyffrous iawn rŵan ein bod ni fel cwmni yn gallu dechrau ar yr ymarferion gyda’r gymuned wedi cryn ddisgwyl, edrych ymlaen a pharatoi.” Yn ogystal â’r ymarferion cymunedol, mae ymarferion Chwarel, prosiect cyfranogi ‘Brain’, Cwmni’r Frân Wen hefyd yn cychwyn ymarfer ym Methesda yr wythnos hon. Mae Chwarel yn brosiect cysylltiedig i Chwalfa i bobl ifanc rhwng 13 a 25 mlwydd oed. Bydd pobl amrywiol o’r diwydiant theatr yn dod i arwain amrywiol sesiynau dros y dair wythnos nesaf, a’r bwriad yw creu darn o waith i’w berfformio ar y 30ain o Orffennaf. Meddai Ffion Haf, Rheolwr Prosiect Brain a hefyd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwalfa; “Cam cyntaf y cynllun yw cynnal sesiynau ‘sgwennu, cynllunio, technoleg, perfformio a marchnata dan arweiniad artistiaid proffesiynol a phrofiadol. Bydd y sesiynau hyn yn esgor ar gyfnod o ymarferion a hyfforddiant pellach gyda’r bobl ifanc.” Mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym ar gyfer Chwalfa yn barod,. Gellir archebu tocynnau trwy gysylltu â Pontio: www.pontio.co.uk / 01248 383828 |
web site: www.theatr.com |
e-mail: |
Tuesday, July 15, 2014![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999