|
One Flew Over the Cuckoo’s Nest yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Medi |
Mae'r cwmni theatr teithiol poblogaidd, Footsbarn, yn cyflwyno eu haddasiad gwreiddiol o One Flew Over the Cuckoo’s Nest, Ken Kasey, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Medi (18 – 20 Med 2014). I'w pherfformio ym mhabell theatr deithiol y cwmni ym Mhlas Roald Dahl (Basn Hirgrwn), bydd y ‘Cuckoo’s Nest’ yn cyfuno pypedau, mygydau, cerddoriaeth a thaflunio gan gynnig dehongliad llawn dychymyg o nofel gwlt Kessey. Wedi'i leoli mewn ysbyty seiciatrig, mae'r addasiad o One Flew Over The Cuckoo's Nest yn feirniadaeth oesol a theimladwy o awdurdod. Wrth ddod â gwedd ffres a dyfeisgar i'r clasur llenyddol a ffilm hwn, bydd ‘Cuckoo’s Nest’ yn archwilio themâu dyfnach y nofel wreiddiol drwy arddull creadigol ac unigryw Footsbarn, gan gynnig perfformiad unigryw sydd ar yr un pryd yn ysgogi'r meddwl, yn ddoniol, ac yn hynod o atmosfferig . Dywedodd Paddy Hayter, Cyfarwyddwr Artistig Footsbarn: 'I ni, chwedl yw'r llyfr gwreiddiol; mae'n stori am ddyn sydd wedi colli'i hunaniaeth oherwydd y pwysau i gydymffurfio, ac sydd yn y diwedd yn rhyddhau ei hun. Mae'n ymwneud â pha reolau y dylem eu dilyn, beth sy'n realiti, beth sydd ddim. Mae'n destun ardderchog, ac yn un rydw i wedi bod eisiau ei wneud am 25 mlynedd. Mae yma thema wych, thema ddynol, mae'n cynnwys comedi, daw i ben â thrasiedi Roegaidd...mae yma bob elfen sydd ei hangen arnoch.' Ers ei sefydlu yng Nghernyw yn 1971, mae Footsbarn - sydd bellach wedi'i leoli yng nghanol Ffrainc - wedi bod yn teithio'r byd yn cyflwyno ei frand unigryw o theatr i gannoedd o gynulleidfaoedd rhyngwladol. Gan ddod â grŵp hynod amrywiol o berfformwyr, talentau a thechnegau theatrig amrywiol at ei gilydd, mae Footsbarn yn enwog am gynnig profiadau theatrig cyfoethog, gwreiddiol ac annisgwyl. Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: 'Mae Footsbarn yn gwmni theatr teithiol arbennig iawn sy'n creu sioeau unigryw o hudol mewn pabell brydferth. Cyflwynais y cwmni yn Belfast ac roedd plant ac oedolion fel ei gilydd wedi'u swyno gan eu cynhyrchiad o A Midsummer Night’s Dream. Mae dyfodiad Footsbarn i unrhyw dref ynddo'i hun yn ddigwyddiad. Maent yn creu awyrgylch syrcas lliwgar a chyffro ble bynnag maent yn mynd. Pan glywais eu bod yn addasu clasur Ken Kesey One Flew Over the Cuckoo’s Nest daeth â gwên i fy wyneb yn syth, wrth i mi ddychmygu'r pypedau, clownio, hiwmor tywyll ac eiliadau o ddrama emosiynol tu hwnt sy'n nodweddu Footsbarn. Alla i ddim aros i'w gweld. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynyddu ei ffocws ar gyflwyno gwaith y tu allan i'r adeilad dros y blynyddoedd nesaf. Cadwch eich llygaid ar agor.' Bydd Footsbarn yn y Basn Hirgrwn y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru o 18 - 20 Medi 2014. Tocynnau o £14. Am ragor o wybodaeth a thocynnau, ffoniwch y swyddfa docynnau ar 029 2063 6464, neu ewch i www.wmc.org.uk |
| Wales Millennium Centre web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Thursday, August 14, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
