Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Y cwmni Dawns byd-enwog o Frasil i berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru     

Y cwmni Dawns byd-enwog o Frasil i berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Bydd y cwmni dawns o Frasil, Grupo Corpo, yn dychwelyd i'r DU, gan berfformio dau ddarn cyfareddol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 14 a 15 mis Hydref 2014.


Bydd Grupo Corpo yn perfformio dau ddarn, wedi'u coreograffeiddio gan y cyfarwyddwr artistig Rodrigo Pederneiras. Mae'r darn cyntaf, Parabelo, wedi'i ysbrydoli gan fywyd yn y Frasil wledig a chafodd ei ddisgrifio gan Pederneiras fel ei greadigaeth fwyaf Brasilaidd. Mae munudau o dawelwch a llonyddwch llwyr a munudau o garnifal Brasilaidd swnllyd.

Mae'r ail ddarn, Sem Mim, yn ddarn tywyllach ac wedi'i ysbrydoli gan gylch o ganeuon Portiwgaleg ac mae'n canolbwyntio ar grŵp o fenywod sy'n galarnadu ar ôl i'w cariadon eu gadael. Yn gwisgo siwtiau corff patrymog a lliwgar, mae'r dawnswyr yn symud fel tonnau; mae llanw a thrai eu cyrff yn dynwared llonyddwch a ffyrnigrwydd y môr.

“Their combination of sharp precision and breezy relaxation is unlike anything I have ever seen.”
The Daily Telegraph

Gyda hanes sy'n mynd yn ôl bron i 40 o flynyddoedd, mae dawnswyr meistrolgar Grupo Corpo'n cyfuno manwl gywirdeb bale clasurol â chnawdoldeb ac angerdd rhythmau dawns Lladinaidd. Corff Grŵp yw'r cyfieithiad o Grupo Corpo, gan adlewyrchu sut mae'r dawnswyr yn symud, gan gydweithio i lenwi'r llwyfan gydag egni a chyffro heb eu hail.

Bydd Grupo Corpo yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 14 a 15 Hydref. Mae'r tocynnau yn amrywio o £15.50 i £25.50. Mae pecynnau premiwm ar gael. Canllaw oedran 8+. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 02920 636464.
Wales Millennium Centre  
web site
: www.wmc.org.uk/grupocorpo

e-mail:
Wednesday, August 27, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk