Mae The Bodyguard, y sioe gerdd ramantaidd gyffrous lwyddiannus, yn dod i Gaerdydd rhwng 16 a 27 Mehefin, yn syth o West End Llundain. Bydd tocynnau ar werth i'r cyhoedd o ddydd Mawrth 2 Medi 2014. www.wmc.org.uk/Productions/2015-2016/DonaldGordonTheatre/Jun16TheBodyguard/ Wedi'i seilio ar ffilm lwyddiannus 1992 gyda Kevin Costner a Whitney Houston, mae The Bodyguard yn dilyn hynt a helyn Frank Farmer, cyn gudd-swyddog yn y gwasanaethau cudd sydd wedi troi'n warchodwr personol, wrth iddo gael ei gyflogi i amddiffyn y gantores enwog Rachel Marron rhag stelciwr anhysbys. Mae'r ddau ohonynt yn disgwyl bod wrth y llyw; ond nid ydynt yn disgwyl syrthio mewn cariad. Mae'r sioe gerdd ramantaidd gyffrous hon yn cynnwys llu o glasuron hudolus Whitney Houston gan gynnwys Queen of the Night, So Emotional, One Moment in Time, Saving All My Love For You, Run to You, I Have Nothing, I Wanna Dance with Somebody a'r gân serch eiconig a enillodd wobr Grammyⓗ, I Will Always Love You. Mae The Bodyguard, sydd wedi ennill teitl “London’s Best Musical" (Magic FM), wedi cael cryn ganmoliaeth ers iddi gael ei llwyfannu’n gyntaf yn Theatr yr Adelphi ym mis Rhagfyr 2012, ac mae'n dod i Ganolfan Mileniwm Cymru fel rhan o'i thaith o amgylch y DU ac Iwerddon. Bydd tocynnau ar gyfer The Bodyguard ar werth i'r cyhoedd o ddydd Mawrth 2 Medi 2014. Mae prisiau'r tocynnau'n amrywio o £19 i £49.50. Canllaw oedran 10+ (Neb o dan 5). Mae seddi premiwm ar gael. I archebu tocynnau neu gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch 02920 63 6464. |
| web site: www.wmc.org.uk/Productions/2015-2016/DonaldGordonTheatre/Jun16TheBodyguard/ |
| e-mail: |
| Friday, August 29, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
