Yn dilyn teithiau llwyddiannus ac adeiladu ar eu henw da am gynhyrchu drama hygyrch o ansawdd uchel, bydd Black RAT Productions yn perfformio comedi doniol a hwylus Alan Ayckbourn, Bedroom Farce, ar daith dau ar bymtheg o leoliadau o amgylch Cymru yr hydref hwn o'r 30 Medi hyd at yr 8 Tachwedd. Mae'r daith yn gynhyrchiad ar y cyd gan Black RAT Productions, Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Theatrau RhCT ac wedi ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan Richard Tunley. Mae campwaith craff a soffistigedig Alan Ayckbourn yn codi cwr y llen ar berthnasoedd cyplau priod ym maestrefi’r 1970au. Mae'r stori yn dilyn pedwar cwpl wrth i'w perthnasau cariadus cael eu profi mewn noson o anhrefn wrth i densiynau sylfaenol ddod i'r amlwg. Gyda holl elfennau hanfodol ffars, mae'r ddrama wedi ei hysgrifennu i gynnwys amseru clyfar a defnydd o ystafelloedd er mwyn gwella'r effaith o gomedi. Mae pob un o'r pedwar cwpl ar gyfnod gwahanol o'u perthnasau, o holl orfoledd a chyffro cariad newydd i bartneriaeth ddisyfyd sy’n para oes a phwysau'r partneriaethau yn byrlymu yn y comedi oesol hwn. Dros gyfnod o noson, mae un pâr hynod hunanol yn gwneud sioe o’u problemau yn ystafelloedd gwely tri phâr arall, gan ddatgelu’r brychau ym mhriodasau pobl eraill yn ogystal â’u priodas eu hunain. Alan Ayckbourn Mae awdur Bedroom Farce, Alan Ayckbourn, yn ddramodydd sydd wedi ennill Gwobr Olivier a Tony sydd wedi ysgrifennu 78 drama, mae mwy na hanner ohonynt wedi cael eu cynhyrchu yn y West End yn Llundain yn ogystal ag o gwmpas y byd. Yn 2009, cafodd ei gyflwyno i Oriel Enwogion Theatr America ac fe dderbyniodd y Society's Special Award mawreddog yng Ngwobrau Laurence Olivier. Daliwr nifer o raddau er anrhydedd, cafodd ei benodi'n CBE yn 1987 ac yn 1997 urddwyd yn farchog am ei wasanaethau i'r theatr. Manylion y Cast Mae Black RAT Productions wedi mwynhau llwyddiant mawr gyda'u cynyrchiadau o 'Bouncers', 'Up ’n’ Under', 'Neville’s Island' a chomedi uchelgeisiol 'Boeing Boeing' mewn blynyddoedd diweddar. Ar gyfer y cynhyrchiad 2014 o Bedroom Farce mae'r cwmni theatr yn falch i groeso ffefrynnau Black RAT yn ôl yn ogystal â chroesawi talent newydd. Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys un o actorion rheolaidd Black RAT sef Gareth Bale fel Trevor (a hefyd yn gyfarwyddwr cynorthwyol ar gyfer y daith), a Richard Tunley yn dychwelyd i'r rôl actor/cyfarwyddwr i chwarae cymeriad Nick a hefyd croeso yn ôl i un o actorion teledu My Family sef Keiron Self fel Malcolm. Yn ymuno â'r cast fe fydd Lizzie Rogan fel Kate, Lynne Seymour fel Jan, Llinos Daniel fel Susannah a Dudley Rogers fel Ernest, sydd yn ŵr hir dymor i Delia, rôl sy'n cael ei chwarae gan actores Gymreig adnabyddus Christine Pritchard. |
| Black RAT Productions web site: www.blackratproductions.co.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, September 10, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
