Bydd cerddoriaeth fyw yn ffynnu unwaith eto yn y Casablanca Club enwog yn Tiger Bay ddydd Sadwrn 1 Tachwedd 2014 wrth i Ganolfan Mileniwm Cymru gyflwyno dathliad o fywyd y lleoliad cerddorol eiconig a threftadaeth gerddorol gyfoethog y gymuned leol hynod. O 1965, roedd y Casablanca yn lle canolog i ddod ynghyd a rhannu cariad at gerddoriaeth yn Tiger Bay, gan ddenu artistiaid enwog o bob cwr o'r byd i berfformio. Oherwydd ei bwysigrwydd ym mywydau pobl leol Tiger Bay, mae gan y lleoliad le yng nghalon y gymuned o hyd ac roedd tristwch mawr pan gafodd y lle ei ddymchwel i wneud lle i faes parcio. Drwy gyfres o straeon a cherddoriaeth fyw, bydd Night at the Casablanca yn rhoi bywyd newydd i'r Casablanca Club enwog wrth ddathlu'r traddodiad cerddorol bywiog a ddatblygodd yno, yn ogystal â phwysigrwydd y lleoliad yng nghymuned Tiger Bay. Bydd Night at the Casablanca y perfformiad agoriadol 10fed pen-blwydd rhaglen Canolfan Mileniwm Cymru . Cynhyrchiad cymunedol Canolfan Mileniwm Cymru, a gyflwynwyd ar y cyd â Banc Lloyds . Bydd Night at the Casablanca, sy'n cael ei gynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar hyn o bryd, yn adrodd hanes un o gyn-drigolion Butetown sydd, wrth ddychwelyd i Butetown gyda ffrindiau o Lundain, yn ymweld â'r Casablanca am y tro cyntaf ers blynyddoedd, gan ysgogi llif o atgofion am y lleoliad. Wrth i'r perfformiad ddatblygu, caiff straeon a phrofiadau go iawn - a gasglwyd gan drigolion Butetown - eu hailadrodd, gan bwysleisio lle canolog y Casablanca wrth wraidd bywydau a digwyddiadau lleol. Gan gynnwys cerddoriaeth fyw gofiadwy o ail hanner y ganrif ddiwethaf, bydd y perfformiad yn symud drwy'r degawdau gan gynnig golygfeydd o'r Casablanca Club, Sgwâr Loudon a chartrefi trigolion lleol Butetown. Dywedodd DJ Keith Murrell, sydd wedi bod yn rhan o fyd cerddoriaeth Caerdydd dros y 40 mlynedd diwethaf ac sy'n helpu i gynhyrchu Night at the Casablanca: ''Roedd y Casablanca Club yn gwbl ganolog i fy addysg gerddorol fy hun - ac yn allweddol yn hanes cerddorol Caerdydd a Chymru hyd yn oed. Ond yn fwy na hynny: mae'r rhyngweithio, y cyfeillgarwch a'r cysylltiadau wedi cael effaith ddofn a pharhaol ar lawer o bobl sydd ag atgofion melys a balch o'r Casa B... Rwyf am helpu i ail-greu’r gerddoriaeth a'r teimladau yna cymaint ag y medraf. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru er mwyn cydnabod y cymorth mae wedi'i roi i Garnifal Butetown eleni ac rwyf yn edrych ymlaen at waith y Ganolfan yn Butetown yn y dyfodol drwy gydol dathliadau Pen-blwydd y Ganolfan yn 10 mlwydd oed a thu hwnt.'' Meddai Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow: ‘Roeddwn yn awyddus iawn inni ddechrau ein dathliadau yng nghwmni ein cymdogion. Mae gan gymuned Butetown dreftadaeth ddiwylliannol anhygoel a straeon cyfoethog a phwerus i'w hadrodd. Rydym am i Butetown ddathlu hyn gyda balchder ar lwyfan Donald Gordon.’ Y tîm creadigol sy'n gyfrifol am y prosiect yw: Keith Murrell, (DJ a Ymgynghorydd Cerddorol), Paula Gardiner (Cyfarwyddwr Cerddorol) a Nicky Delgado (Awdur). Dywedodd Caryl Parry Jones, sef un o'r artistiaid Cymraeg a berfformiodd yn y clwb "I hogan ifanc o'r Rhyl oedd newydd symud i'r ddinas roedd darganfod y Casablanca yn rhyfeddol. Roedd yn egsotic, yn ddirgel, yn gyffrous, yn enigmatic, yn garismatig a MOR cŵl! Roedd cael perfformio yno yn fraint brin. Mae hiraeth mawr ar ei ôl". Bydd Night at the Casablanca i'w gweld am un noson yn unig ar 1 Tachwedd 2014 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd tocynnau ar werth o 11 Medi 2014 (£15 ymlaen llaw, £17 wrth y drws). |
| web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Monday, September 15, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
