Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

THEATR BARA CAWS - GARW     

THEATR BARA CAWS - GARW

Dydd Mawrth 30 Medi :: Tuesday 30 September, 7.30yh/pm £9 (£8)
Theatr Mwldan, Aberteifi | Cardigan

Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni bu i Bara Caws gyflwyno ‘Garw’, drama newydd sbon gan Siôn Eirian, a chafwyd ymateb ysgubol gan y beirniaid a’r cyhoedd fel ei gilydd. Dyma’r ddrama lwyfan gyntaf i’r awdur ei hysgrifennu ers 12 mlynedd, ac mae Bara Caws yn ymfalchïo eu bod wedi cael cyfle i lwyfannu’r gwaith. Mae’r perfformiad yn cymryd lle yn Theatr Mwldan am Dydd Mawrth 30 Medi am 7.30yh. Yn enedigol o Hirwaun, ger Aberdâr, treuliodd Siôn ei flynyddoedd cynnar ym Mrynaman, cyn i’r teulu symud i fyw i’r Wyddgrug, Sir y Fflint.


Drama newydd heriol am bobl a’u brwydrau personol mewn cyfnod o newid mawr yn hanes diweddar Cymru yw ‘Garw’. Fe’i lleolir mewn pentref dienw yn Nyffryn Aman dros gyfnod o bum mlynedd, rhwng 1986-1991. Mae’r byd yn newid i Llew, cyn löwr a chyn focsiwr. Nid dwylo garw’r dynion sy’n cynnal teuluoedd bellach, ond bysedd diwyd y gwragedd. Os yw gorwelion Llew yn culhau, mae gorwelion Sara ei wraig a Lowri ei ferch yn lledaenu i gyfeiriadau annisgwyl, a gyda’r holl newidiadau mae seiliau’r aelwyd yn simsanu.


Dywed Siôn Eirian ei fod yn awyddus i osgoi mynd ar ôl stori gyfarwydd streic y glowyr. Er mai cyn-löwr sydd wedi colli ei waith yw un o brif gymeriadau’r ddrama, mae’r awdur wedi dewis ei bortreadu nid fel rhywun a fu’n gweithio yn un o’r pyllau mawr, ond yn hytrach fel un a arferai gael ei gyflogi mewn pwll bach cyntefig lle nad oedd undebaeth yn rym o bwys. Yn ôl Siôn cymdeithas ar groesffordd sy’n cael ei darlunio yn ‘Garw’.

Mae’r cast yn cynnwys wynebau cyfarwydd iawn i fynychwyr y theatr ac i wylwyr S4C – Sion Ifan, Rhys Parry Jones o Grymych, Gwawr Loader ac Eiry Thomas. Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig Bara Caws, sy’n cyfarwyddo.
Yn dilyn wythnos hynod lwyddiannus yn yr Eisteddfod, pan werthwyd pob un tocyn, bydd ‘Garw’ yn teithio i leoliadau ledled Cymru rhwng dydd Llun 22 Medi a dydd Sadwrn 11 Hydref 2014.


Mae tocynnau i Garw am Dydd Mawrth 30 Medi am 7.30yh yn £9 (£8 gostyngiad) ac ar gael i’w archebu o Swyddfa Docynnau’r Mwldan ar 01239 621200, ar lein at www.mwldan.co.uk, neu ar ffon glyfar drwy ymweld â mwldan.ticketsolve.com/mobile


Addas i rhai dros 14 oed | For 14+ ::
 
web site
: www.mwldan.co.uk

e-mail:
Monday, September 15, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk