|
MAE CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN GWAHODD POBL CYMRU I BERFFORMIAD AM DDIM O THE LION KING GAN DISNEY |
Bydd 26 Tachwedd 2014 yn cofnodi deng mlynedd ers i Ganolfan Mileniwm Cymru agor ei drysau i'r cyhoedd. I ddathlu'r garreg filltir hon, hoffai'r Ganolfan ddiolch i bobl Cymru am eu cefnogaeth dros y degawd diwethaf drwy gynnig cyfle arbennig ac unigryw i weld perfformiad am ddim o The Lion King gan Disney. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn rhoi llond tŷ o docynnau am ddim (dros 1,700) i bobl Cymru ar gyfer perfformiad o The Lion King ar 26ain Tachwedd - ddeng mlynedd i'r diwrnod yr agorodd y Ganolfan ei drysau i'r byd, diolch i gefnogaeth garedig gan Banc Lloyds. Dywedodd Mathew Milsom, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Mileniwm Cymru, ''Ers i ni agor 10 mlynedd yn ôl mae pobl Cymru wedi dangos cymaint o gefnogaeth a theyrngarwch i ni. Mae ein dyled ni fel Canolfan i'r miliynau o bobl sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer sioeau, gan gyfrannu at ein llwyddiant fel busnes, yn enfawr. Mae eu cefnogaeth barhaus wedi'n galluogi i gyflawni ein huchelgais o ddod â'r gorau o'r byd i Gymru ac arddangos y gorau o Gymru. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi'n fawr yr holl athrawon, rhieni a chefnogwyr, gan gynnwys Banc Lloyds, sydd wedi galluogi dros 200,000 o bobl ifanc, llawer ohonynt o gymunedau difreintiedig, i gael profiadau o'r celfyddydau yn y Ganolfan sydd wedi cyfoethogi eu bywydau.'' Dywedodd Allan Griffiths, Cyfarwyddwr Rhanbarth Bancio Busnesau Bach a Chanolig Banc Lloyds ''Fel prif noddwr dathliadau pen-blwydd y Ganolfan yn ddeng mlwydd oed, mae Banc Lloyds yn falch o gefnogi prosiect mor wych, gan alluogi miloedd o bobl ledled Cymru i werthfawrogi'r celfyddydau am ddim.'' Ychwanegodd Mathew Milsom ''Gallaf ddweud yn onest fod pobl Cymru wir wedi rhoi croeso cynnes iawn i'r Ganolfan. I ddangos i bobl pa mor ddiolchgar ydym, hoffem gynnig y cyfle unigryw hwn i'r boblogaeth gyfan ymuno â ni ar gyfer y perfformiad am ddim hwn o The Lion King ar 26 Tachwedd. Mae hwn hefyd yn gyfle i ni groesawu pobl i Ganolfan Mileniwm Cymru am y tro cyntaf sydd, am ba reswm bynnag, heb brofi hud y Ganolfan a Theatr Donald Gordon erioed o'r blaen. Bydd y Ganolfan yn gwahodd trigolion Cymru i wneud cais am docyn am ddim a fydd ar ffurf pleidlais. I wneud cais i gymryd rhan yn y bleidlais, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cwblhau'r ffurflen ar wefan y Ganolfan www.wmc.org.uk/cystadleuaethbanclloyds. Mae'r bleidlais gyhoeddus ar agor i bawb sydd dros 18 mlwydd oed sydd â chod post yng Nghymru. Bydd Telerau ac Amodau yn gymwys. Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ddydd Mawrth 23 Medi 2014 am 10am. Gellir cofrestru ar-lein, dros y ffôn neu drwy ymweld â desg docynnau Canolfan Mileniwm Cymru. Felly cofrestrwch nawr! Bydd Telerau ac Amodau yn gymwys - gweler gwefan y Ganolfan am fanylion. (www.wmc.org.uk) Bydd sioe The Lion King gan Disney yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 6 Tachwedd 2014 ac 11 Ionawr 2015. I gael tocynnau neu ragor o wybodaeth neu i ddysgu rhagor am y Nadolig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ewch i www.wmc.org.uk/nadolig neu ffoniwch 02920 63 6464. |
| web site: www.wmc.org.uk/nadolig |
| e-mail: |
| Monday, September 22, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
