Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Mae Rock of Ages yn dod i Gaerdydd     

Mae Rock of Ages yn dod i Gaerdydd

Gyda Ben Richards a’r Cymro Noel Sullivan, bydd Rock of Ages yn ei rocio hi yn Theatr Newydd Caerdydd o ddydd Llun 6 Hydref - dydd Sadwrn 11 Hydref.
ROCK OF AGES ydy’r sioe gerdd roc orau a fu erioed, stori ddoniol am freuddwydion, cariad ac – wrth gwrs – roc. Gan ddathlu diwylliant roc yr 80au, mae’r sioe hon yn adrodd hanes merch o dref fach ddi-nod a rocyr o’r ddinas fawr yn cwympo mewn cariad i gyfeiliant caneuon roc gorau’r degawd. Mae’r sioe yn cynnwys caneuon bythgofiadwy megis We Built This City, The Final Countdown, I Wanna Know What Love Is a Don’t Stop Believin’, gan ddod a’i dathliad gwyllt o ddiwylliant roc Los Angeles i’r DU.

Rhybudd: gall y sioe hon eich cynhyrfu’n lân a gwneud i chi ei rocio hi am y gorau!

Ben Richards fydd yn chwarae rhan y rociwr Stacee Jaxx. Mae Richards yn fwyaf enwog am chwarae rhan Bruno Milligan yn y gyfres deledu boblogaidd Footballers Wives (ITV), ynghyd â rhannau yn The Bill a Holby City, ac fel beirniad rheolaidd ar Strictly Dance Fever y BBC. Mae’n dychwelyd i’r llwyfan yn Rock of Ages yn dilyn gyrfa eang yn West End Llundain ac o amgylch y DU. Yn y theatr mae wedi chwarae rhan Sky Masterton yn Guys and Dolls (West End a thaith y DU), Tony Manero yn Saturday Night Fever (West End a thaith y DU), a Jerry Lukowski yn The Full Monty (West End). Mae Richard hefyd wedi chwarae rhannau mewn ffilmiau gan gynnwys Julie and the Cadillacs a Bring Me The Head of Mavis Davis.


Mae Noel Sullivan yn chwarae rhan Drew Boley gyferbyn â Ben Richard. Mae Noel wedi chwarae rhan Tick yn Priscilla Queen of the Desert, Galileo yn We Will Rock You a Danny Zuko yn Grease, oll yn y West End. Mae Sullivan hefyd yn adnabyddus fel aelod o’r grwp pop Hear’Say ac wedi chwarae mewn sawl arena gyda’r band. Mae ei waith arall yn y theatr yn cynnwys yr Yusef Islam ifanc yn Moonshadow (Royal Albert Hall), Black Mountain Male Chorus of Wales (Taith yr UD), Nick Piazza yn Fame the Musical (Edinburgh Playhouse). Ar y teledu mae wedi perfformio yn: Gavin and Stacey, Popstars, Meet the Popstars, Hear'say It's Saturday, Hear'say the Next Chapter, The Royal Variety Show a Top Of The Pops.

Ni fydd Noel Sullivan yn cymryd rhan yn y perfformiadau a gynhelir ar ddydd Mercher 7.30pm nac ar ddydd Gwener 5pm.

Mae Rock of Ages yn y Theatr Newydd o dydd Llun 6 Hydref - dydd Sadwrn 11 Hydref. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda’r prisiau yn amrywio o £10.00 i £34.50. I gael rhagor o fanylion ynglyn â’r sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Codir Tâl Gwasanaeth Tocyn o £2.95 ar archebion

Rock of Ages
Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Llun 6 Hydref- dydd Sadwrn 11 Hydref
Dydd Llun – dydd Iau 7.30pm; dydd Gwener a dydd Sadwrn 5.00pm ac 8.30pm
Tocynnau: £10.00 - £34.50
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
 
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Friday, September 26, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk