Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Shrek The Musical yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Nadolig 2015.     

Shrek The Musical yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Nadolig 2015.

Yn syth o West End Llundain, bydd Shrek The Musical i'w weld yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd rhwng dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2015 a dydd Sul 10 Ionawr 2016.

https://www.wmc.org.uk/Productions/2015-2016/DonaldGordonTheatre/Dec8Shrek/

Yn seiliedig ar y ffilm animeiddiedig lwyddiannus gan DreamWorks, gwelwyd Shrek The Musical yn fyw ar y llwyfan gan bron i filiwn o bobl yn ystod ei chyfnod yn Theatre Royal Drury Lane yn y West End yn Llundain. Mae'r sioe gerdd hon sy'n ffefryn gyda'r teulu cyfan wedi cael ei pherfformio ledled y byd ers i Shrek The Musical agor yn Broadway yn 2008, a chaiff ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghymru yn y Ganolfan ar gyfer tymor Nadolig 2015.

Bydd Shrek, yr arwr annhebygol a'i gyfaill ffyddlon Donkey yn mynd ar daith i achub y Dywysoges Fiona brydferth (er yn danllyd) o grafangau draig sy'n anadlu tân ac sydd hefyd yn glaf o gariad. Ar ben hynny, peidiwch ag anghofio'r corrach o ŵr bonheddig Arglwydd Farquaad, criw rhyfedd o fyd y chwedlau tylwyth teg, a bisged gegog, a chewch gomedi cerddorol heb ei ail.

Gan gynnwys caneuon newydd yn ogystal ag anthem cwlt Shrek ‘I’m a Believer’, bydd Shrek The Musical yn dod â holl gymeriadau poblogaidd DreamWorks yn fyw ar y llwyfan mewn sioe llawn canu a dawnsio.

Bydd Shrek The Musical yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd fel rhan o daith lwyddiannus o amgylch y DU ac Iwerddon. Bydd y tocynnau ar gyfer Shrek The Musical yn mynd ar werth i'r cyhoedd ddydd Mawrth 14 Hydref 2014, gyda chyfnod o archebu â blaenoriaeth i aelodau Addewid y Ganolfan o ddydd Gwener 3 Hydref 2014 ac o ddydd Mawrth 7 Hydref 2014 i'r rhai sy'n archebu tocynnau grŵp.

Shrek the Musical| Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2015 - Dydd Sul 10 Ionawr 2016 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, CF10 5AL. | Tocynnau £18 - £56.50 | Canllaw Oedran 5+ (neb dan 2) | Archebwch yn www.wmc.org.ukneu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 029 2063 6464
 
web site
: www.wmc.org.uk/Productions/2015-2016/DonaldGordonTheatre/Dec8Shrek/

e-mail:
Friday, September 26, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk