7 – 18 Hydref, Dydd Mawrth – dydd Sadwrn, 7:30pm (ac eithrio 10 Hydref, sydd yn ddangosiad 9pm)

Wedi’i greu yn arbennig fel y perfformiad agoriadol yn y theatr byncer newydd yng nghilfachau tywyllach Adeilad Iceland ar y Stryd Fawr yn Abertawe. Mae BLACK STUFF yn berfformiad ynghylch glo, celfyddyd, gwleidyddiaeth ac ymchwil ofer am Tip Mawr Gwyn Dowlais. Mae’n cymryd ei ysbrydoliaeth o stori fer: The Hangman’s Assistant gan yr awdur Cymreig anghofiedig Dai Alexander. Mae Black Stuff yn sioe am y gorffennol a’r presennol a’r delweddau creadigol sydd wedi ymgasglu o gwmpas tref Ystradgynlais. Ac mae’n dangos agweddau ar fywydau Josef Herman, David Martin a Betty Rae Watkins. Mae’r perffomiad penodol i safle annarferol yma yn daith danddaearol ddu, gwaith celf Cymreig modern a chyfle i archwilio tŷ diwylliant newydd Abertawe ar waith!
 Cyfarwyddwr: Paul Davies 
Cyfarwyddwraig Symudiadau: Catherine Bennett
Dylunio: Lizzie French a Cadi Lane 
Perfformwyr: Rhys McLellan; Neal McWilliams; Barbara Sarmiento Araña; Robin Willingham
Rheolwr Cynhyrchu: John Kirk 
Rheolwr Llwyfan Ymarferion: Fiona McCulloch
 Diolch i Betty Rae Watkins, Sarah Pace a Josef Herman Art Foundation Cymru

£10/£5 Mae pris disgwont yn berthynol i’r digyflog, myfyrwyr, pobl anabl, dan 18 oed a phensiynwyr. Efallai y bydd angen prawf o statws.
 Disgownt Archebu Grŵp – 10% i archebion grŵp o 10 neu ragor o bobl (mae staff sydd yn dod gyda grwpiau cyfradd disgownt yn gymwys am y gyfradd disgownt). 

CYNIGION ARBENNIG:
Rhagddangosiad dydd Mawrth 7 Hydref – tocynnau pris llawn £8
Dydd Gwener 10 Hydref - £5 gyda thaflen wedi’i stampio BEEP o lansiad yr arddangosfa Noson Talwch Beth Allwch Chi – Mawrth 14 Hydref
Cyflogai, tenantiaid a phreswylwyr Grŵp Tai Coastal - £5 unrhyw noson. |
| Volcano Theatre web site: www.volcanotheatre.co.uk/967/productions/black-stuff.html |
| e-mail: |
| Friday, October 3, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
