|
Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno theatr penigamp yn rhaglen yr hydref yn Stiwdio Weston. |
Yr hydref hwn, daw Canolfan Mileniwm Cymru â thymor llawn o theatr graddfa fach fwyaf hynod y DU i Stiwdio glyd Weston. Drwy arddangos amrywiaeth o genres artistig, yn cynnwys dawns, cerddoriaeth, syrcas a drama, mae Stiwdio Weston yn cynnig rhaglen eclectig, perfformiadau o safon uchel a phrisiau fforddiadwy. http://www.wmc.org.uk/WhatsOn/westonstudio Uchafbwyntiau'r tymor: Bydd Stiwdio Weston yn cyflwyno dau berfformiad o raglen Mis Hanes Pobl Dduon y Ganolfan. Wrth gofio stori deimladwy a phwerus siwrnai o blentyndod i dadolaeth, gosodir My Father and Other Superheroes (24 Hydref) ar draws gwahanol gyfandiroedd ac oesau, a dilyna ymdrechion un dyn wrth ddod i delerau â chyfrifoldebau bod yn dad. Fel rhan o ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon, bydd Stiwdio Weston hefyd yn cyflwyno Tavaziva Ten (25 Hydref), sef perfformiad pen-blwydd arbennig sy'n dathlu deng mlynedd o arddull dawnsio Affricanaidd unigryw Bawren Tavaziva. Bydd y thema dawns yn parhau drwy gydol tymor yr hydref, pan fydd Ballet Cymru yn dychwelyd i Stiwdio Weston gyda'u cynhyrchiad o Beauty and the Beast (16 - 17 Tachwedd). Gyda gwisgoedd ysblennydd, coreograffi syfrdanol, a serch torcalonnus, bydd Ballet Cymru yn cyflwyno ballet iasol sy'n seiliedig ar y stori tylwyth teg gothig boblogaidd. Yn ogystal â dawns, mae Stiwdio Weston wedi cyflwyno drama gyfoes yn gyson i gynulleidfaoedd Canolfan Mileniwm Cymru. Daw Hiraeth (26 – 27 Hydref) i'r Ganolfan yn dilyn cryn ganmoliaeth yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni. Dechreuodd y ddrama deimladwy hon fel darn datblygu o brosiect Deori Stiwdio Weston ac mae'n archwilio dirywiad traddodiad a hunaniaeth Cymru drwy ymdrechion un wraig i ddianc rhag ei gwreiddiau Cymreig. Bydd Stiwdio Weston yn croesawu'n ôl stori arall o lwyddiant a ddechreuodd fel prosiect Deori, sef Lost in the Neuron Forest (21 Hydref). Mae Lost in the Neuron Forest yn archwiliad rhyngweithiol o arwyddocâd atgofion personol, a gaiff ei adrodd drwy atgofion un wraig o straeon o'i gorffennol yn dilyn canfod bod ganddi afiechyd Alzheimer. Bydd Stiwdio Weston yn parhau i gynnig cynyrchiadau syrcas ardderchog yn ystod tymor yr hydref. Daw Gandini Juggling a'u sioe ragorol Smashed (5 Rhagfyr) i'r Ganolfan, gan addo cymysgedd hudolus o syrcas a theatr, wedi'i ysbrydoli gan waith Pina Bausch. Gan barhau â thema syrcas, cyniga Façade gan Crashmat Collective (17 - 18 Hydref) brofiad pryd tri chwrs ynghyd ag artistiaeth syfrdanol yn yr awyr a fydd yn cymylu'r ffiniau rhwng y gynulleidfa a'r perfformiwr. Wrth i dymor yr hydref yn Stiwdio Weston ddod i ben, gall cynulleidfaoedd ddisgwyl cyfnod oer na welwyd ei debyg pan fydd Canolfan Mileniwm Cymru, Birmingham Hippodrome a Christopher Green yn cyflwyno The Frozen Scream (11 – 20 Rhagfyr). Wedi ei selio ar chwedl Sioni Rhew, mae'r addasiad llwyfan arbrofol hwn o'r nofel arswyd felltigedig o 1928 yn siŵr o beri ias yn ystod tymor y Nadolig. Dywedodd Louise Miles-Crust, Pennaeth Rhaglennu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ‘'Mae'n gyffrous iawn gallu croesawu cynyrchiadau a ddechreuodd yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ôl ac mae'n foddhaus iawn gweld sut mae'r syniadau cychwynnol y gwnaethom eu cefnogi drwy ein prosiectau Deori wedi datblygu i fod yn ddarnau theatr llwyddiannus. Mae'r Ganolfan yn parhau i gyflwyno perfformiadau cyntaf cyffrous yn Stiwdio Weston, a dwi'n edrych ymlaen yn arbennig at weld The Frozen Scream y tymor hwn, sy'n brosiect rydym yn ei gynhyrchu ar y cyd â Birmingham Hippodrome.” Mae tocynnau ar gyfer tymor yr hydref yn Stiwdio Weston ar werth nawr. I archebu neu gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.wmc.org.uk/WhatsOn/westonstudio/ |
| web site: www.wmc.org.uk/WhatsOn/westonstudio/ |
| e-mail: |
| Monday, October 6, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
