6 Hydref 2014 Yn dilyn datganiad Pontio heddiw, mae’n ddrwg gan Theatr Genedlaethol Cymru ddeall na fydd modd llwyfannu Chwalfa yn Theatr Bryn Terfel, Pontio yn y flwyddyn newydd. Mae’r cwmni’n falch, fodd bynnag, o gyhoeddi y bydd yn llwyfannu Y Fenyw Ddaeth o’r Môr, sef cyfieithiad Cymraeg newydd gan Menna Elfyn o Fruen fra havet (The Lady from the Sea) gan Henrik Ibsen, wedi’i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig y cwmni, Arwel Gruffydd, a hynny mewn cydweithrediad â Theatr y Torch, Aberdaugleddau. Bydd y cynhyrchiad yn agor yn y Torch ddiwedd mis Chwefror cyn teithio Cymru yn ystod mis Mawrth, 2015. Meddai Arwel Gruffydd; “Mae wedi bod yn fwriad gan y cwmni ers tro i lwyfannu cyfieithiad Cymraeg o un o glasuron rhyngwladol theatr naturiolaidd. Ibsen, wrth gwrs, oedd y pencampwr gwreiddiol, ac mae dylanwad ei ddramâu wedi bod heb ei ail yn hanes y theatr. Mae’n fater o siom fawr i ni, wrth gwrs, na fedrwn barhau am y tro gyda’n paratoadau ar gyfer Chwalfa, ond byddwn yn gwneud pob ymdrech bosibl i lwyfannu’r stori eithriadol ymacyn gynted ag y bydd modd. Rydw i’n falch iawn fodd bynnag ein bod ni’n gallu bwrw ymlaen gyda chynhyrchiad o glasur rhamantaidd Ibsen, sef Y Fenyw Ddaeth o’r Môr yn y flwyddyn newydd, a chydweithio gyda Theatr y Torch am y tro cyntaf erioed. Mae’n stori arbennig ac yn ddrama gyffrous, gyda pherthynas ramantaidd driphlyg wrth wraidd y stori, ynghyd â rhyddid merch i ddewis ei thynged ei hun. Mae’r stori wedi ei gosod yn wreiddiol yn Norwy, ond mae cyfieithiad hyfryd Menna Elfyn yn gwneud defnydd o dafodiaith hynod Sir Benfro. Braf iawn felly yw gallu cychwyn ein taith ger y môr yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau.” Bydd dyddiadau a chanolfannau taith lawn Y Fenyw Ddaeth o’r Môr yn cael eu cyhoeddi’n fuan. |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Monday, October 6, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
