Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

RHAMANT Y DDAWNS O FARSELONA!     

RHAMANT Y DDAWNS O FARSELONA!
Mae’r cwmni dawns o fri rhyngwladol Mar Gómez yn dod i theatrau yn Abertawe, Casnewydd a Threorci fel rhan o fenter i ddod â rhaglen ddawns ddisglair o fri rhyngwladol i Gymru.

Bydd teuluoedd a charwyr y ddawns wrth eu boddau â’r sioe liwgar a doniol Dios Menguante (Duw sy’n crebachu). Prif gynhwysion y stori hon ynghylch offeiriad sy’n aros ar ei daith trwy fywyd a menyw nad oes stop arni yw symud, ystumiau a doniolwch! Dau berson â chymeriadau gwahanol iawn sydd trwy amryfusedd yn eu rhoi ei gilydd, a pheiriant golchi ar brawf, er mwyn iddynt fedru delio â throeon chwyrn ffawd. Fydd golchi dillad byth yn ymddangos yn dasg feunyddiol ddiflas o hyn allan!

Dyma gyfle prin i weld y cwmni dawns rhagorol hwn o Farselona, yn cynnwys y dawnswyr eithriadol Mar Gómez a Xavier Martinez, sydd wedi teithio’r byd yn perfformio’r sioe fendigedig o ddoniol hon.

Cynhelir perfformiadau yn Theatr Taliesin, Abertawe Gwener 7 Tachwedd am 7.30pm 01792 602060 www.taliesinartscentre.co.uk, Canolfan Glanyrafon Casnewydd Mawrth 11 Tachwedd am 7pm 01633 656757 www.newport.gov.uk/riverfront a Theatr y Park & Dare Treorci Mercher 12 Tachwedd am 7.30pm 08000 147111 www.rct-arts.co.uk.

Cefnogir y daith gan Creu Cymru a Chonsortiwn Dawns Cymru, a wnaed yn bosib trwy gyllid oddi wrth Gyngor Cynulleidfa Cymru.
Wales Millennium Centre  
web site
: www.taliesinartscentre.co.uk

e-mail:
Wednesday, October 15, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk