|
NOFEL ENWOG PETER JAMES "THE PERFECT MURDER" yn Y Theatr Newydd |
Ar ôl diddanu a dychryn cynulleidfaoedd ledled y wlad gyda stori ddoniol, dywyll a chyffrous, mae’r addasiad llwyfan o nofel lwyddiannus Peter James, The Perfect Murder, yn dod i Gaerdydd o ddydd Mawrth 4 i ddydd Sadwrn 8 Tachwedd. Hwn yw’r cynhyrchiad llwyfan cyntaf erioed o nofel dditectif eithriadol o lwyddiannus Peter James – sydd wedi gwerthu dros 15 miliwn o lyfrau cyfres Roy Grace, a gyhoeddwyd mewn 36 o ieithoedd. Mae'r llyfr, a dreuliodd 15 wythnos ar frig y siartiau llyfrau, wedi'i addasu gan yr awdur penigamp Shaun McKenna. Mae Victor Smiley a’i wraig Joan yn briod ers tro byd. Ond mae’r briodas yn chwalu ac mae Victor wedi penderfynu mai un ffordd sydd o waredu Joan o’i fywyd am byth ... ond mae ar fin cael syrpreis annifyr... Wrth i’r ditectif ifanc Roy Grace ddechrau ymchwilio i’w achos cyntaf o lofruddiaeth, mae grymoedd eraill ar waith ac mae Grace yn dechrau poeni bod llawer mwy dan yr wyneb yn y stori gomedi gyffrous a thywyll hon. Mae cast yn llawn sêr yn The Perfect Murder a arweinir gan Robert Daws (The Royal), Dawn Steele (Wild at Heart), Gray O’Brien (Coronation Street), Thomas Howes (William y gwas o Downton Abbey) a Simona Armstrong (a gyrhaeddodd rownd derfynol ‘Maria’ ar y BBC). Bydd The Perfect Murder yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 4 Tachwedd tan ddydd Sadwrn 8 Tachwedd. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda’r prisiau yn amrywio o £9.00 i £30.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau ewch i www.welsh.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Codir Tâl Gwasanaeth Tocynnau ar bob archeb The Perfect Murder Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 4 Tachwedd – dydd Sadwrn 8 Tachwedd Nosweithiau 7.30pm; sioeau prynhawn dydd Mercher, dydd Iau a dydd Sadwrn 2.30pm Tocynnau: £9.00 - £30.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.welsh.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, October 22, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
