Yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth Dydd Llun 24 – Dydd Mawrth 25 Tachwedd, 2014 Sioe Nadolig i blant fydd hon fydd wedi ei sylfaenu ar daith arwrol y Cymry i Batagonia ar fwrdd llong-cario-te y Mimosa a'u hanesion geirwon yn cesio sefydlu'r Wladfa dan amgylchiadau mor arw ac mewn gwlad mor bell. Yn 2015 byddwn yn dathlu 150 o flynyddoedd ers y fordaith chwedlonol honno i Borth Madryn yn Ne yr Ariannin. Bydd y sioe hon yn gyfle gwych i addysgu plant ifanc Cymru am yr holl gefndir a'r digwyddiad. Bydd enwogion o'r cyfnod yn gymeriadau amlwg yn y sioe ee Lewis Jones (y Lewis sydd yn Nhrelew). Y dywysoges hardd fydd ei ferch o sef Elen. Bydd y Sbaenwyr yn peri problemau gyda'i deddfau caethiwys (er nad yn hollol wir) a bydd y Cymry yn cael help, parch a chyfeillgarwch gan yr Indiaid brodorol y Tehuelches (gwir). Cawn hefyd flas ar y traddodiadau a'r diwylliant, tirwedd yr Andes a'r anifeiliaid rhyfeddol - y Guanacos, yr Armadillos (sef y dulog fel y'i gelwir yno heddiw) a llew'r mynydd y Piwma. Bydd y sioe yn llawn lliw a dawns a chan, tensiwn a chyffro, drygioni a daioni a chariad yn ennill y dydd a theyrnasu yn y diwedd. Pwrpas y sioe fydd rhoi adloniant a gwefr i'r plant ond trwy wneud hynny eu haddysgu am hanes sefydlu Y Wladfa yn 1865. I archebu lle , cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01970 62 32 32 neu mynd ar lein www.aber.ac.uk/artscentre |
| Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth web site: www.aber.ac.uk/artscentre |
| e-mail: |
| Tuesday, November 11, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
