Bydd Orbit Theatre, sef cwmni theatr amatur pennaf Cymru, yn dychwelyd i'r Theatr Newydd o ddydd Mawrth 2 Rhagfyr i ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr gyda’r sioe gerdd Nadoligaidd, White Christmas. Mae'r cyn-filwyr Bob Wallace a Phil Davies yn perfformio deuawd canu a dawnsio llwyddiannus yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Gyda rhamant mewn golwg, mae'r ddau yn dilyn dwy ferch brydferth sy'n canu gyda'i gilydd wrth iddynt deithio i berfformio sioe Nadolig yn Vermont, ac mae'r lleoliad dan sylw yn digwydd bod yn berchen i gyn uwch swyddog Bob a Phil yn y fyddin. Yn seiliedig ar y ffilm glasurol boblogaidd, mae'r sioe gerdd dwymgalon hon yn cynnwys un deg saith o ganeuon bythgofiadwy Irving Berlin megis Sisters, Blue Skies, I Love a Piano, How Deep is the Ocean a'r hen ffefryn White Christmas. Gyda gwisgoedd trawiadol a setiau disglair, mae'r sioe gerdd gofiadwy hon gan Orbit Theatre yn cyfleu naws y Nadolig yn berffaith ac yn sicr o gael pawb i fwynhau hwyl yr wyl. Bydd White Christmas yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 2 Rhagfyr tan ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr. Mae’r tocynnau ar werth nawr ac mae'r prisiau'n dechrau o £9.00 i £20.00. I gael rhagor o wybodaeth am y sioe neu archebu tocynnau ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Codir Tâl Gwasanaeth Tocyn o £2.95 ar bob archeb. White Christmas Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 2 Rhagfyr - dydd Sadwrn 6 Rhagfyr Perfformiadau gyda'r hwyr 7.30pm; cynhelir perfformiadau prynhawn dydd Mercher, dydd Iau a dydd Sadwrn am 2.30pm Tocynnau: £9.00 - £20.50 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| Theatr Newydd, Caerdydd web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, November 12, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
