Mae Odyssey Hijinx yn dod ag ysbryd yr Ŵyl i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda The Spirit of Christmas |
![]() Fyddai'r Nadolig ddim yr un fath heb goeden drawiadol, carolau traddodiadol a llond yr ystafell o deulu a ffrindiau. Ond yr uchafbwynt eleni i'r rhai sy'n mynychu'r theatr yw sioe Nadoligaidd fywiog Odyssey Hijinx, sy'n dod â The Spirit of Christmas (a choeden, carolau a ffrindiau) i Ganolfan Mileniwm Cymru y mis Tachwedd hwn! Mae Odyssey yn grŵp cymunedol cynhwysol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ac oedolion heb anableddau sy'n rhannu'r un cariad tuag at berfformio yn ogystal â bod yn adain amatur o'r cwmni theatr Hijinx. Yr hyn sydd mor arbennig am Odyssey, ac mae'n rhywbeth prin, yw ei fod yn dod â phobl ag anableddau a phobl sydd heb anableddau o gefndiroedd gwahanol iawn at ei gilydd, er mwyn darganfod, chwarae, a chyd-deithio i fyd dychmygol. Eleni bydd disgyblion brwdfrydig o Ysgol Uwchradd Woodlands a myfyrwyr cerddoriaeth dawnus o Brifysgol De Cymru, Caerllion yn ymuno ag Odyssey ar y llwyfan. Disgrifia Nia Ramage, aelod o'r grŵp ers peth amser, Odyssey fel “bod â theulu estynedig,” gan ychwanegu, “Mae ymdeimlad anhygoel o undod ymysg holl aelodau Odyssey yn ogystal â staff a gwirfoddolwyr Hijinx ac rydym yn ymfalchïo mewn cydweithio fel tîm bob amser. Rydym yn helpu ein gilydd yn barhaus boed yn ystod ein sesiynau ar nos Lun, mewn ymarferion ar benwythnosau neu yn ystod ein perfformiadau.” Pa well pwnc i Odyssey fynd i'r afael ag ef yn eu cynhyrchiad, The Spirit of Christmas, na theulu a chyfeillgarwch. Mae'r wledd gerddorol Nadoligaidd hon yn canolbwyntio ar Megan... sy'n awyddus iawn i ddarganfod mwy am hanes ei mam-gu, perfformwraig hudolus nad yw'r teulu byth yn siarad amdani, a ymfudodd o Gaerdydd 60 mlynedd yn ôl. Gyda dim ond llun o'i mam-gu a gwahoddiad i barti, caiff Megan gyfle o'r diwedd i ddysgu mwy am y fenyw y dywedir i Megan ymdebygu iddi o ran edrychiad a dawn. Wrth i'w pherthnasau ddangos hen luniau, daw storïau’n fyw gan helpu Megan i ddarganfod mwy am hanes ei mam-gu. Cyd-dynnu fel tîm er mwyn codi arian tuag at The Spirit of Christmas Ymdeimlad o deulu a gweithio mewn tîm sydd wedi dod â'r grŵp at ei gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn codi arian tuag at lwyfannu cynhyrchiad Nadolig yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae Simon Richards, aelod o Odyssey sydd â syndrom Asperger ac sy'n aelod o bwyllgor codi arian y grŵp, yn gweld pwysigrwydd yr ysbryd tîm hwn, “Mae'n gast o bobl ag anableddau a phobl heb anableddau, ond mae'n llawer mwy na hynny...mae'n gast o ffrindiau!” Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl oddi wrth griw mor greadigol, mae'r gweithgareddau codi arian wedi bod yn lliwgar ac yn amrywiol, o Ddisgo Degawdau a oedd yn llawn gwisgoedd ffansi a chaneuon poblogaidd o'r 60au, 70au a'r 80au, i Noson Cyri a Chwis gyda raffl ar ffurf pasio'r parsel! Ond nid yw codi arian yn hwyl i gyd, a diolch i waith caled ac ymroddiad aelodau Odyssey, codwyd bron i £1500 tuag at y cynhyrchiad hyd yma. Perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Mae Gaynor Lougher, Rheolwr Artistig Theatr Hijinx, wrth ei bodd y bydd Odyssey unwaith eto'n gallu perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, “Mae dod â syniadau creadigol dros 40 o bobl ynghyd ar lwyfan yn her, ond golyga bod y sioe, a berfformiwyd gyntaf yn 2005, wedi tyfu a datblygu yn berfformiad Nadoligaidd llawn hwyl sy'n newydd ar gyfer 2014. Yn sicr bydd llawer iawn o egni heintus ar y llwyfan a fydd yn ymledu drwy'r gynulleidfa gyfan! ” Archebu Bydd The Spirit of Christmas yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru ar 27ain a 28ain Tachwedd am 7pm, a 29ain Tachwedd am 3pm a 7pm. Pris y tocynnau yw £8 - £12 a gellir eu harchebu drwy alw i mewn i swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru, dros ffôn ar 029 20 636464, neu ar-lein yn http://www.wmc.org.uk |
web site: www.wmc.org.uk |
e-mail: |
Friday, November 14, 2014![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999