|
Adroddiad effaith yn datgelu llwyddiant adfywio diwylliannol Canolfan Mileniwm Cymru yn ei degfed flwyddyn |
Heddiw, dydd Gwener 28 Tachwedd 2014, yw dengmlwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru, canolfan genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau perfformio. I ddathlu’r degawd cyntaf yma, mae’r Ganolfan wedi rhyddhau adroddiad effaith newydd sy’n datgelu ei hôl troed sylweddol ar ddiwylliant ac economi gwledydd Prydain ers 2004. Gyda lefelau cymhorthdal cyhoeddus y Ganolfan yn ddim ond 19% o’i holl incwm, ei chyfraniad blynyddol o £50 miliwn i economi Cymru a ffigurau ymwelwyr o dros filiwn y flwyddyn, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn stori o lwyddiant o ran adfywio diwylliannol ac mae’n enghraifft o safon fyd-eang o’r hyn y gall lleoliadau celfyddydol y tu allan i Lundain ei gyflawni. Fel prif atyniad Cymru erbyn hyn, ac un o atyniadau diwylliannol mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain, mae’r lleoliad celfyddydol eiconig yma yn cyflawni ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau. Fel y nododd Simon Tait yn Rhagair yr adroddiad: “Mae’r bragmatiaeth oleuedig a greodd Ganolfan Mileniwm Cymru wedi’n tywys... Roedd y blynyddoedd cyntaf yn heriol ond roedd gan Lywodraeth Cymru ffydd. Ar ôl cynrychiolaeth effeithiol gosodwyd y Ganolfan ar dir ariannol mwy cadarn, ac aeth ei chymhorthdal blynyddol i fyny i £3.6 miliwn, neu 19% o’i hincwm – oedd yn dal i fod gryn dipyn yn llai na’r hyn oedd canolfannau tebyg fel y Southbank a’r Barbican yn Llundain yn ei dderbyn, heb sôn am y Tŷ Opera Brenhinol. Ac ar ôl ennill ei phlwyf yn genedlaethol a rhyngwladol, mae’r addewid yn fwy cyffrous fyth.” Mae pwyntiau allweddol yr adroddiad yn cynnwys y canlynol: · Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cyfrannu £50 miliwn bob blwyddyn i’r economi leol. Mae hyn yn ychwanegol at ei phartneriaid preswyl, gydag Opera Cenedlaethol Cymru ei hunan yn cyfrannu £22.5 miliwn pellach bob blwyddyn · £3.6 miliwn yw cymhorthdal cyhoeddus blynyddol y Ganolfan drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sef 19% o gyfanswm ei hincwm; mae’n gwneud dros £4 am bob £1 o arian cyhoeddus. · Mae’r Ganolfan wedi gwneud bum gwaith yn well na thargedau’r llywodraeth o ran ffigurau ymwelwyr, gan ddenu 1.1 miliwn o ymwelwyr achlysurol bob blwyddyn. Hyd yma, mae wedi croesawu dros 13.5 miliwn o ymwelwyr drwy ei drysau, gan gynnwys 3.38 miliwn o ymwelwyr â’r theatr · Gwerthwyd gwerth £100 miliwn o docynnau ers 2004 · Mae’r Ganolfan yn gartref i lawer o brif sefydliadau celfyddydol Cymru, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ac mae 1,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar y safle · Drwy ei phartneriaethau strategol, mae’r Ganolfan bellach yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau perfformio. Mae Cape Town Opera a Theatr Mariinsky yn bartneriaid rhyngwladol, ac enwi dim ond dau, tra bod aelodau blaenllaw o’r diwydiant ym Mhrydain yn barod eu cefnogaeth, o Matthew Bourne i’r Arglwydd Lloyd Webber, a ddywedodd: “Dyma’r theatr orau i gael ei hadeiladu yn y byd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf.” · Hon oedd y ganolfan celfyddydau annibynnol gyntaf yng ngwledydd Prydain i gyrraedd y safon rheoli amgylcheddol ryngwladol ISO 14001, ac mae’n un o lofnodwyr sylfaenol Siarter Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru · Y Ganolfan sydd â’r rhaglen fwyaf ym Mhrydain o berfformiadau rhad ac am ddim, gan lwyfannu dros 450 o berfformiadau rhad ac am ddim bob blwyddyn. Mae wedi cynnig cyfleoedd creadigol i dros 200,000 o blant a phobl ifanc. · Mae’r Ganolfan yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel cyrchfan ddiwylliannol ac fel un o brosiectau mwyaf llwyddiannus y Mileniwm gan y Loteri Cenedlaethol. Fe’i dewiswyd yn Drysor Cenedlaethol Cymru gan y cyhoedd ym mis Tachwedd 2014. Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr Mathew Milsom: “Mae pobl yn dweud bod y Ganolfan yn unigryw yn y byd celfyddydol, gan daro’r cydbwysedd iawn rhwng cynaliadwyedd busnes ac effaith ddiwylliannol. Mae ein llwyddiant hyd yma wedi ei seilio ar egwyddorion cynnal busnes cadarn. Fodd bynnag, bydd elfen o gymhorthdal cyhoeddus yn parhau bob amser i fod yn elfen hanfodol yn ein model busnes. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn caniatáu i ni gynnig rhaglenni artistig a diwylliannol mwy uchelgeisiol, gan gynnwys cynyrchiadau rhyngwladol o ansawdd, yn ogystal â budd cyhoeddus ehangach heb fod angen am enillion masnachol, gan gynnwys perfformiadau rhad ac am ddim a gweithgareddau cyfranogol, sy’n cael eu cynnig i’r gymuned gyfan.” Ymunodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig, â’r Ganolfan eleni yn syth o Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2013 Derry-Londonderry. Meddai: “Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cael effaith enfawr yn ystod y degawd diwethaf. Rydw i wrth fy modd yn cael ymuno yn ystod blwyddyn y dengmlwyddiant i helpu’r Ganolfan i fwrw ymlaen â’i huchelgais o fod yn bwerdy diwylliannol. “Yn ystod y degawd nesaf, byddwn yn synnu pobl yn amlach ac yn bwrw’r drysau’n agored i’r holl ofodau yn y safle anhygoel yma gan dynnu’r awyr iach i mewn. O fewn gwledydd Prydain, rydw i eisiau i ni fod yn cynhyrchu ac yn cyd-gynhyrchu gwaith sy’n cael ei gydnabod am ei ansawdd artistig, ac sydd hefyd yn gwneud yn dda yn fasnachol. Rydw i eisiau i weddill Prydain feddwl ‘os ydyn nhw’n ei lwyfannu, mae’n rhaid ei fod yn werth rhoi cynnig arno.” Ychwanegodd Cadeirydd y Ganolfan, Syr Emyr Jones-Parry: “Rhoddodd Llywodraeth Cymru ei chefnogaeth i’r datblygiad gwerth £106m i greu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer y celfyddydau, i gefnogi rhagoriaeth a theilyngdod, ac i hybu cenedligrwydd Cymru. Mae’n bwysig bod yn falch o ragoriaeth ein diwylliant ni ein hunain, ond gan edrych allan hefyd. Yn ystod y degawd diwethaf mae’r Ganolfan wedi rhoi cymaint o fwynhad, wedi annog dyhead ac uchelgais, ac wedi agor gorwelion pobl ifanc a gweddnewid bywydau, yn debyg iawn i’r hyn mae addysg yn ceisio’i wneud. Rydyn ni wedi bod yn uchelgeisiol ac wedi edrych allan, a dyna rydyn ni’n ceisio ei feithrin ymhlith ein pobl ifanc drwy brosiectau addysgol ac artistig, fel ein corws plant, sydd wedi cyflwyno perfformiadau neilltuol dramor gyda’n partneriaid, Theatr Mariinsky yn St Petersburg a Cape Town Opera yn Ne Affrica.” Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w weld ar wefan dengmlwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru http://wmc10.org.uk Bydd gwybodaeth bellach am ddathliadau’r dengmlwyddiant, a gefnogir gan Fanc Lloyds, ar gael drwy’r wefan. |
| Canolfan Mileniwm Cymru web site: wmc10.org.uk |
| e-mail: |
| Friday, November 28, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
