Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn mynd yn ôl i oes aur Hollywood yn ystod mis Ionawr     

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn mynd yn ôl i oes aur Hollywood yn ystod mis Ionawr

Bydd Top Hat yn ymddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 14 a 24 Ionawr 2015 fel rhan o daith 47 wythnos o’r DU, gan ddod â chlasur Fred Astaire a Ginger Rogers i Gaerdydd.

Fideo: Top Hat - Canolfan Mileniwm Cymru

Mae Top Hat, sy’n llawn caneuon mwyaf poblogaidd Irving Berlin, gan gynnwys Cheek to Cheek, Top Hat, White Tie & Tails, Let’s Face the Music & Dance a Puttin’ on the Ritz, yn adrodd hanes arwr Broadway Jerry Travers sy’n dawnsio ei ffordd ar draws Ewrop er mwyn ennill calon y foneddiges Dale Tremont.

Yn esgidiau Fred Astaire a Ginger Rogers bydd Alan Burkitt a Charlotte Gooch sy’n chwarae prif rannau Jerry Travers a Dale Tremont, y mae’r ddau ohonynt yn dychwelyd i Top Hat ar ôl perfformio’r rhannau hyn yn y West End.

Yn ymuno â hwy bydd Clive Hayward fel Horace Hardwick, Rebecca Thornhill fel Madge Hardwick, Sebastien Torkia fel Alberto Beddini a John Conroy fel gwas Horace, Bates.

Yn rhan o’r cast gwreiddiol yn y West End, mae Alyn Hawke, a aned ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn dychwelyd i Dde Cymru fel rhan o’r ensemble a chapten dawns y sioe. Mae aelodau’r ensemble ac aelodau amgen hefyd yn cynnwys: Lucy Ashenden, Thomas Audibert, Caroline Bateson, Sophie Camble, Matthew Caputo, Kristy Cullen, Paul Farrell, Ian Goss, Carys Gray, Rebecca Hodge, Samuel Humphreys, Thomas Inge, Thomas-Lee Kidd, Sarah-Marie Maxwell, David McKechnie, John McManus, George Olney, Ben Palmer, Holly Rostron, Maria Ward, Amy West a Monique Young.
Cyfarwyddwr Top Hat yw Matthew White a’r coreograffydd yw Bill Deamer, cynllunydd y setiau yw Hildegard Bechtler, cynllunydd y gwisgoedd yw Jon Morrell, Peter Mumford sy’n gyfrifol am y goleuo, Gareth Owen sy’n gyfrifol am y sain, Chris Walker sy’n gyfrifol am y trefniannau cerddorfaol newydd a’r goruchwylydd cerddorol yw Richard Balcombe.

Bydd Top Hat yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 14 a 24 Ionawr 2015. Mae’r tocynnau yn amrywio o £18 i £46.50. Mae seddi premiwm ar gael. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 02920 636464.
 
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Thursday, December 4, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk