Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Theatr Genedlaethol Cymru Cyhoeddi Rhaglen Artistig Chwefror – Awst 2015     

Theatr Genedlaethol Cymru Cyhoeddi Rhaglen Artistig Chwefror – Awst 2015

Heddiw, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi y rhaglen artistig ar gyfer Chwefror – Awst 2015.

Bydd Y FENYW DDAETH O’R MÔR yn agor yn Theatr y Torch ar 26 Chwefror 2015 (gyda rhagddangosiad ar 25 Chwefror) cyn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (3 a 4 Mawrth 2015) Theatr y Sherman (12 ac 13 Mawrth) Theatr y Ffwrnes (16 ac 17 Mawrth) a Theatr Clwyd (20 a 21 Mawrth).
Dyma drosiad newydd Menna Elfyn o glasur seicolegol Henrik Ibsen, Fruen fra Havet (The Lady from the Sea), wedi ei gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd. Max Jones a Ruth Hall yw’r cynllunwyr, Ceri James yw’r cynllunydd goleuo, Matt Jones yw’r cynllunydd sain a Dan Lawrence yw’r cyfansoddwr.


Heledd Gwynn fydd yn portreadu Elida a Dewi Rhys Williams fydd Dr Wangel. Yn ymuno gyda nhw fydd Siôn Alun Davies, Siân Davies, Richard Elis, Elin Llwyd, Siôn Ifan a Seiriol Tomos.

Dyma stori garu fwyaf cyffrous Henrik Ibsen wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf gan Menna Elfyn.

“Wy’n teimlo’r dynfa hunllefus... y dynfa am y môr...”
Yn ferch i geidwad y goleudy, mae Elida’n ysu am ryddid y môr. Er mor garedig yw ei gŵr, mae ei phriodas fel cawell amdani a’r mynyddoedd yn cau o’i chwmpas. Mae ymweliad rhyw ddieithryn yn corddi’r dyfroedd, ond ai dieithryn yw e mewn gwirionedd? Wrth iddi ddod wyneb yn wyneb â’i gorffennol cythryblus, yn sydyn rhaid gwneud y penderfyniad anoddaf un... aros neu ffoi?



Drama newydd gan Siân Summers, wedi ei gyfarwyddo gan Aled Pedrick fydd taith mis Mai 2015; PAN OEDD Y BYD YN FACH. Gan agor yn Neuadd Gwyn, Castell-nedd wythnos 11 Mai 2015, bydd y ddrama yn teithio theatrau Cymru gan gynnwys Theatr y Sherman, Taliesin, Theatr Mwldan, Lyric, Y Stiwt,Theatr Ardudwy a Galeri yn ystod mis Mai a Mehefin.

Gaeaf 1984, ac mae Streic y Glowyr yn ei hanterth. Mae’r esgid yn gwasgu a thensiynau’n uchel wrth i rai ddychwelyd i’r pwll.
Mewn llecyn tawel ymhell o gythrwfl y llinell biced, daw criw o fechgyn ynghyd yn gynnar un bore i ddangos eu cefnogaeth. Ond nid pawb sy'n cael croeso yno y bore hwn, ac mae un weithred dreisgar, ysgytwol yn newid eu bywydau am byth.
Drama newydd gan Siân Summers am frad, brawdgarwch a thyfu'n ddyn.



Yn Mehefin 2015 bydd Theatr Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn cyd-gynhyrchu gyda National Theatre Wales ac S4C. Bydd llu o ddathliadau led led Cymru a Phatagonia yn ystod 2015 i gofnodi 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa. Comisiynwyd Marc Rees yn Gyfarwyddwr Creadigol i greu cynhyrchiad lleoliad arbennig i gofnodi’r achlysur. Bydd digwyddiadau allweddol sefydlu’r Wladfa yn cael eu plethu gan ffilm o fywyd cyfoes ym Mhatagonia a’i gyflwyno yn storfa y Tŷ Opera Brenhinol ger Aberdâr. Mae’r lleoliad yn arwyddocaol oherwydd gwnaeth 66 o’r ymfudwyr cyntaf, a deithiodd ar y Mimosa ym 1865, hannu o’r ardal. Bydd y perfformiad yn un aml-ieithog, sef Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg.


Drama arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a’r Goroau 2015 gan Theatr Genedlaethol Cymru fydd NANSI, wedi ei hysgrifennu gan Angharad Price a’i gyfarwyddo gan Sarah Bickerton. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu yn Y Stiwt, Llanfair Caereinion, a bydd yn adrodd hanes liwgar ac unigryw Nansi Richards, Telynores Maldwyn a ‘Brenhines y Delyn’.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Thursday, December 4, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk