|
Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno cynhyrchiad Richard III gyda merched yn unig |
Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn defnyddio ei gwagle to enfawr fel gofod perfformio am y tro cyntaf pan fydd yn cyflwyno fersiwn o Richard III sy'n cynnwys merched yn unig, rhwng 10 a 23 Chwefror 2015. Bydd y gofod perfformio amgen yn lleoliad perffaith ar gyfer yr addasiad arloesol hwn sy'n ceisio herio syniadau rhagdybiedig ynghylch sut a ble y dylid llwyfannu gwaith Shakespeare. Cynhyrchwyd y ddrama gan Omidaze Productions ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru, ac mae'r cynhyrchiad Shakespeare hwn sy'n cynnwys merched yn unig, a berfformir mewn gofod theatr anghonfensiynol, yn addo cynnig profiad cynulleidfa unigryw a chofiadwy, gan daflu goleuni a chynnig safbwynt newydd ar destun Shakespeare ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd. Er bod gan y DU hanes cryf o ddynion yn chwarae rhannau merched, ac er bod cynyrchiadau Shakespeare sy'n cynnwys dynion yn unig yn parhau i fod yn beth cyffredin a derbyniol, prin iawn yw'r achosion o hyd o ferched yn chwarae rhannau dynion. Drwy fabwysiadu'r dull anarferol o gyflwyno cynhyrchiad sy'n cynnwys merched yn unig, yn enwedig mewn drama a ystyrir yn aml yn gyfrwng ar gyfer prif gymeriad gwrywaidd ac sy'n cynnwys dros 40 o gymeriadau gwrywaidd, mae cynhyrchiad Omidaze o Richard III yn ceisio herio'r confensiynau hyn. Drwy ddefnyddio merched ar gyfer pob rôl, ar ac oddi ar y llwyfan, mae'r cynhyrchiad hefyd yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb menywod yn y diwydiant theatr a chodi ymwybyddiaeth o ran cydraddoldeb cyflogaeth i ferched mewn diwydiant lle mae llai na 30% o'r dalent greadigol yn ferched, er mai merched sy'n cyfrif am 68% o gynulleidfaoedd theatr. Dywedodd Yvonne Murphy, Cyfarwyddwr Richard III, sy'n teimlo'n frwd dros wneud Shakespeare yn hygyrch ac yn ddiddorol i gynulleidfaoedd newydd: 'Credaf yn gryf bod statws merched yn y theatr yn effeithio ar statws merched mewn cymdeithas ac yn adlewyrchu'r statws hwnnw. Rydym am fod yn herfeiddiol o ran lleisio barn merched, ac, er mwyn rhoi'r lle a'r fforwm iddynt fynegi eu hunain yn artistig, rhaid i ni weithredu'n gadarnhaol. Un o'r ffyrdd rydym yn ceisio gwneud hyn yw drwy fynd ati i normaleiddio merched yn chwarae rhannau dynion.' Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: 'Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at weld gwagle to Canolfan Mileniwm Cymru yn cael ei ddefnyddio fel gofod perfformio am y tro cyntaf erioed. Mae'n lleoliad amgen perffaith i ddrama sy'n ceisio herio'r rhagdybiaethau am y theatr. Mae hefyd yn hyfryd gweithio mewn cydweithrediad ag Omidaze gan arwain y blaen o ran sicrhau bod mwy o rannau i ferched yn y theatr ar ac oddi ar y llwyfan.' Mae Richard III yn un o'r digwyddiadau a fydd yn arwain at WOW Caerdydd, gŵyl sy'n dathlu, herio ac yn mynegi cyflawniadau, trafferthion a heriau i ferched yn y dyfodol ac fe'i cynhelir ym mis Mawrth 2015. Mae Richard III yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 10 a 23 Chwefror 2015, (Rhag-berfformiad 9 Chwefror 2015). Pris tocyn yw £12 (rhag-berfformiad £9). Mae perfformiadau matinee ar gael. Canllaw oedran 10+. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 02920 636464. |
| web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Thursday, December 18, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
