Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno addasiad newydd o’r clasur Almaenaidd Man to Man fis Mawrth 2015     

Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno addasiad newydd o’r clasur Almaenaidd Man to Man fis Mawrth 2015

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno fersiwn newydd o Man to Man ym mis Mawrth 2015, y cynhyrchiad llawn mewnol cyntaf o dan gyfarwyddyd artistig newydd Graeme Farrow. Wedi'i gyfieithu a'i addasu o gampwaith Manfred Karge 'Jacke wie Hose' gan Alexandra Wood, bydd y cynhyrchiad yn ail-ddychmygu'r sioe un ferch fel darn dwys a meistrolgar o theatr gorfforol.

Ar ôl i'w gŵr farw, mae Ella Gericke yn cymryd ei enw ac yn parhau i weithio yn ei swydd fel gweithredwr craen er mwyn goroesi'r Almaen Natsïaidd. Gan beryglu ei hunaniaeth ei hun er mwyn goroesi, mae Ella yn plymio i fyd gwrywaidd newydd llawn cwrw, schnapps a phocer; bodolaeth clawstroffobig a chaiff ei rheoli gan yr ofn o gael ei darganfod ac awdurdod ar ei newydd wedd yn yr Almaen anwadal yn yr ugeinfed ganrif.

Wrth ailwampio'r campwaith Almaeneg gwreiddiol yn ddarn personol a hollgynhwysol o theatr gorfforol, mae Man to Man yn wynebu erchyllterau’r Ail Ryfel Byd o safbwynt unigryw a hynod bersonol.

Ysgrifennwyd y fersiwn newydd gan y dramodydd ifanc cyffrous, Alexandra Wood, gyda Margaret Ann Bain fel Ella, ac mae Man to Man wedi'i chyfarwyddo gan Bruce Guthrie, (Cyfarwyddwr Cyswllt i Sam Mendes ar ei daith fyd-eang o Richard III, cyfarwyddwr Twelfth Night ac Othello, ar gyfer y Singapore Repertory Theatre), ochr yn ochr â thîm creadigol gwych gan gynnwys Scott Graham o'r cwmni theatr corfforol blaenllaw Frantic Assembly.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow: "Mae Man to Man Manfred Karge yn cynnig safbwynt unigryw ar hanes yr Almaen gyda chymysgedd anhygoel o farddoniaeth, rhyddiaith, realaeth a hud. Mae tîm artistig gwych yn gweithio arni gan gynnwys y berfformwraig gorfforol hynod dalentog Margaret Ann Bain. Ein nod yw cynhyrchu gwaith beiddgar a thrawiadol fel hwn yng Nghymru a mynd ag ef i'r byd. Mae Man to Man yn lle da i ddechrau.'

Gan drafod yr addasiad newydd, dywedodd y cyfarwyddwr Bruce Guthrie: ‘ Mae Man to Man yn wahanol iawn i’r dramâu rydw i wedi’u cyfarwyddo o’r blaen. Mae’n episodaidd – mae Ella yn ail-fyw cyfres o atgofion ac, o’r dechrau, roeddwn i’n teimlo bod y sgript wreiddiol yn wirioneddol gymhellol. Bydd yr addasiad yma’n ceisio mynd â’r gynulleidfa ar siwrnai synhwyraidd yn hytrach nag un storïol. Gobeithio y byddwn yn llwyddo i ddeffro gwahanol ymatebion gan y gynulleidfa yn seiliedig ar y gyfres o atgofion sy’n cael ei harchwilio.

‘Mae’n ddrama ryfeddol a byddwn ni’n defnyddio nifer o wahanol dechnegau i sefydlu iaith a pherthynas gyda’r gynulleidfa er mwyn mynd â nhw ar siwrnai gyda’r cymeriad: taflunio, goleuo, y ffordd rydyn ni’n rhyngweithio â’r set a gyda’r gynulleidfa, neu natur gorfforol y darn. Mae’r cyfan ar gael gan fod y testun mor gyfoethog a’r atgofion mor gryf. Mae’n mynd i fod yn gyffrous iawn.’

Cafodd fersiwn wreiddiol Manfred Karge o'r ddrama, 'Jacke wie Hose', ei llwyfannu'n am y tro cyntaf yn y Scgauspeilhaus Bocehum yn 1982. Cafodd ei chyfieithu am y tro cyntaf gan Anthony Vivas ac fe'i perfformiwyd yn y DU o dan y teitl Saesneg Man to Man, gyda Tilda Swinton yn chwarae rhan Ella Gericke.

Mae Man to Man yn rhan o WOW Caerdydd, gŵyl sy'n dathlu, herio ac yn mynegi cyflawniadau, trafferthion a heriau i ferched yn y dyfodol ac fe'i cynhelir ym mis Mawrth 2015.

Mae Man to Man yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 20 a 27 Mawrth 2015, (rhag-berfformiad 19 Mawrth 2015) Mae tocynnau'n £14, rhag-berfformiad, £9. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 029 2063 6464.
 
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Friday, December 19, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk