|
Cwmni Theatr Arad Goch i sefydlu cymuned ‘Adolygwyr Theatr Ifanc - Aberystwyth’ |
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc Ceredigion ac ardaloedd cyfagos, hyfforddiant am ddim i’w datblygu i fod yn adolygwyr theatr ifanc yn ardal Aberystwyth. Cynhelir y gweithdy dwyieithog yng Nghanolfan Arad Goch rhwng 1 – 3 o’r gloch ar Ddydd Llun y 9fed o Chwefror. “Mae yna brinder adolygwyr theatr ifanc, yn enwedig Cymry Cymraeg, tu allan i Dde Cymru. Fel cwmni sy’n cynnal deialog cyson ac yn gwrando ar bobl ifanc, rydym yn falch o gydweithio gyda Young Critics Wales a busnesau lleol yn Aberystwyth i drefnu’r gweithdy cyntaf o’i fath yn y Canolbarth” Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch. Guy O Donnell yw sefydlydd Young Critics Wales ac o ganlyniad i’w fenter mae nifer o bobl ifanc yn adolygu gwaith theatr yn gyson yn Ne Cymru. “Mae Young Critics Wales yn awyddus i gydweithio gyda sefydliadau fel Arad Goch i ddatblygu rhwydwaith o adolygwyr ifanc ymhob cwr o Gymru” Guy O Donnell. Ar ddechrau’r sesiwn bydd y bobl ifanc yn gweld perfformiad o gynhyrchiad newydd Arad Goch ‘Oes Rhaid I Mi Ddeffro’, y trydydd mewn cyfres o berfformiadau rhyngweithiol i blant ifanc, mae’r cast yn cynnwys yr actorion Ffion Wyn Bowen, a Mark Roberts a’r cerddor Mari Morgan. Yn dilyn hyn, bydd yr adolygydd profiadol Lowri Hâf Cooke yn defnyddio’r perfformiad fel sail ar gyfer trafodaeth, wrth arwain y bobl ifanc trwy’r broses greadigol o ysgrifennu adolygiadau theatr. 'Bydd y sesiwn yn archwilio ac yn gyfle i gyfnewid syniadau, a chynnig hwb i adolygwyr ifainc. Wrth gwestiynnu, adlewyrchu a thrafod ynghyd mae modd canfod eich llais beirniadol eich hun.' Lowri Hâf Cooke Ar ddiwedd y sesiwn bydd y bobl ifanc yn cwrdd â chynrychiolwyr o’r cylchgrawn newydd yr ‘Aberystwyth EGO’ a’r wefan www.theatre-wales.co.uk , dau fusnes yn Aberystwyth sydd yn awyddus i gynnig platform i’r bobl ifanc i gyhoeddi eu gwaith. Byddant hefyd yn cwrdd â chynrychiolwyr o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn clywed sut gallan nhw fod o gymorth i’r bobl ifanc wrth iddyn nhw chwilio am berfformiadau i’w hadolygu yn y dref. Yn dilyn sgwrs am y gweithdy ar raglen Ifan Evans ar C2 BBC Radio Cymru ar Nos Fawrth y 13eg o Ionawr, mae Arad Goch hefyd yn gyffrous i gyhoeddi bod yr orsaf yn awyddus iawn i gydweithio, er mwyn rhoi cyfle i’r Cymry ifanc sy’n mynychu’r gweithdy i adolygu perfformiadau theatr yn fyw ar yr awyr. Does dim dwywaith bod y gweithdy yn gyfle gwych i bobl ifanc ac mae dros 30 eisioes wedi cofrestru. Mae Arad Goch yn gofyn i unrhywun arall sydd â diddordeb i gysylltu gyda Heulwen Davies, Swyddog Marchnata Arad Goch erbyn Ionawr 20fed. heulwen@aradgoch.org / 01970 617 998. |
| Cwmni Theatr Arad Goch web site: www.aradgoch.org |
| e-mail: heulwen@aradgoch.org |
| Thursday, January 15, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
