Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

The Business of Murder yn y Theatr Newydd     

The Business of Murder yn y Theatr Newydd

Yn dilyn naw mlynedd lwyddiannus yn y West End mae stori dditectif seicolegol afaelgar The Business of Murder yn dod i’r Theatr Newydd o ddydd Mawrth 3 Chwefror tan ddydd Sadwrn 7 Chwefror.

Yn llawn o droeon annisgwyl, mae’r stori ddirgelwch hon am lofruddiaeth yn waith yr awdur Richard Harris sy’n gyfrifol am rai o’r straeon ditectif gorau gan gynnwys A Touch of Frost, The Avengers, The Sweeney a The Last Detective. Mae Robert Gwilym sy’n adnabyddus i filiynau am ei rôl fel Dr Max Gallagher yn Casualty, a Steve Marchant (Emmerdale, Bad Girls a Hollyoaks) yn arwain cast talentog i ddod â’r ddrama gyffrous ddiweddaraf hon yn fyw ar y llwyfan.

Bydd cynulleidfaoedd ar bigau’r drain drwy gydol y ddrama gyffrous hon. Dilynwch hanes Dee, dramodwraig teledu wrth iddi dderbyn gwahoddiad gan ddyn o’r enw Stone i’w fflat i drafod sgript ffilm. Ond pan fydd hi’n canfod y dyn y mae hi yn caru ar y slei gydag ef yn y fflat yn ogystal, mae Dee yn dechrau amau bod rhyw ddrwg yn y caws.

Mae The Business of Murder yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 3 Chwefror i ddydd Sadwrn 7 Chwefror. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda’r prisiau yn amrywio o £8.50 i £27.00. I gael rhagor o fanylion ynglyn â’r sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Codir Tâl Gwasanaeth Tocyn o £2.95 ar bob archeb.

The Business of Murder
Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Mawrth 3 i ddydd Sadwrn 7 Chwefror
Nosweithiau 7.30pm; Perfformiadau prynhawn dydd Iau a dydd Sadwrn 2.30pm
Tocynnau: £8.50 – £27.00
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
 
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Tuesday, January 20, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk