Bydd y Cymro Gareth David-Lloyd (Torchwood) yn ymuno â Tom Conti yng nghast Twelve Angry Men a fydd yng Nghaerdydd o ddydd Mawrth 17 i ddydd Sadwrn 21 Chwefror. Yn dilyn perfformiadau hynod lwyddiannus yn y West End, disgrifiwyd y cynhyrchiad newydd, grymus hwn o waith cyffrous Reginald Rose fel “drama fwyaf clyfar y West End”. Mae’r rheithgor mewn penbleth ac mae bywyd troseddwr ifanc yn y fantol wrth iddynt geisio penderfynu pwy lofruddiodd ei dad. Ond mae’r hyn sy’n ymddangos yn syml yn troi’n gymhleth wrth i ragfarnau a chamsyniadau am bawb a phopeth arwain at ddiweddglo cyffrous... Mae Tom Conti, sydd wedi ennill Gwobr Olivier a Gwobr Tony ac a enwebwyd am Oscar, yn dychwelyd fel rheithiwr rhif 8, rôl a wnaed yn enwog gan Henry Fonda. Mae Tom yn un o actorion gorau ei genhedlaeth – roedd ei berfformiadau mewn ffilmiau fel Merry Christmas Mr. Lawrence a Shirley Valentine yn fythgofiadwy. Bydd Gareth David-Lloyd yn ymuno ag ef ar y llwyfan, sy’n adnabyddus am chwarae rhan Ianto Jones yn Torchwood, rhaglen a ddeilliodd o Doctor Who, ac Andrew Lancel, sy’n enwog am chwarae rhan y dihiryn Frank Foster yn Coronation Street. Yn cymryd eu lle ar y rheithgor mae Robert Duncan, a chwaraeodd ran y Prif Weithredwr jargonllyd Gus Hedges yn Drop The Dead Donkey, Andrew Frame, a chwaraeodd ran P.C. Hargreaves yn Eastenders, David Calvitto, a berfformiodd ar y llwyfan yn These Shining Lives a The Odd Couple ymysg eraill, Mark Carter, sydd wedi ymddangos ar y teledu yn Hollyoaks, Utopia a The Knock, a Sean Power, a ymddangosodd yn Secret Diary of a Call Girl a Fright Night 2 ar ITV. Mae Jon Carver, sy’n serennu yn y rhaglen Doctors, yn ôl i chwarae rhan The Guard. Denis Lill, a ymddangosodd yn The Royal ac Only Fools And Horses, Paul Beech, sydd wedi ymddangos yn King Lear ac A Tale of Two Cities ymysg eraill, Alexander Forsyth, sydd wedi serennu mewn cynyrchiadau llwyfan o Porcelain ac It Never Ends, ac Edward Halsted, sydd wedi ymddangos yn Holby City a Jonathan Creek, fydd aelodau eraill y rheithgor. Bydd Twelve Angry Men yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 17 i ddydd Sadwrn 21 Chwefror. Mae tocynnau ar werth nawr gyda’r prisiau’n amrywio o £9.50 i £30.50. Ceir prisiau arbennig i blant. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. *Mae’n bosibl y codir Tâl Gwasanaeth o £2.95 ar archebion (eithriadau’n berthnasol) Twelve Angry Men Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 17 – Dydd Sadwrn 21 Chwefror Nosweithiau 7.30; Sioeau prynhawn Mercher, Iau a Sadwrn 2.30pm Tocynnau: £9.50 - £30.50 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, January 27, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
