|
Godspell – The Broadway Revival In Concert yn y Theatr Newydd |
Mae’r sioe gerdd roc fyd-enwog yn ôl!Yn dilyn ei llwyddiant ysgubol yn West End Llundain, bydd Godspell yn dod i Gaerdydd ar ddydd Gwener 17 a dydd Sadwrn 18 Ebrill i berfformio cyngerdd unigryw. Mae’n stori oesol am gyfeillgarwch, teyrngarwch a chariad a grëwyd gan y cyfansoddwr o fri, Stephen Schwartz, a gipiodd wobr Grammy ac Academy am y sioe Wicked. Mae’r sgôr modern newydd sbon yn cynnwys y caneuon campus Day By Day ac All Good Gifts, sy’n sicr o godi’r galon a chodi’r to. Mae cantorion o gorau lleol yn rhan o'r ensemble, ac yn arwain y cast mae Jade Ewens (un traean o’r grwp pop Sugababes), Andy Abraham (X-Factor), Leanne Jarvis (The Voice UK) gyda Tom Senior (Jersey Boys) yn chwarae rhan Duw. Bydd Godspell yn y Theatr Newydd ddydd Gwener 17 a dydd Sadwrn 18 Ebrill. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £13.50 i £32.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Gellir codi Ffi Gwasanaeth Tocynnau o £2.95 ar archebion (ceir eithriadau). Godspell – The Broadway Revival in Concert Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Gwener 17 a Dydd Sadwrn 18 Ebrill Nosweithiau: 7.30pm, Perfformiad prynhawn Sadwrn: 2.30pm Tocynnau: £13.50 - £32.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, March 17, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae’r sioe gerdd roc fyd-enwog yn ôl!