Gan y tîm a gyflwynodd Hot Flush! dyma sioe newydd sbon am fynd ar ddêts a dynion. Wedi’i gyd-ysgrifennu gan yr hyfryd Claire Sweeney, sy’n chwarae ei hun ynddo, mae’n gynhyrchiad sydd wedi difyrru cynulleidfaoedd lu. Mae Penny Crow yn cyflwyno sioe alwadau hwyrnos ac mae’n chwarae rhan prif Agony Aunt Prydain, gan siarad am y dêts gwaethaf posibl, a rhai anhygoel. Mae hi’n ddigon hapus i roi cyngor i bobl ar berthnasau, ond a ydy hi’n fodlon cael cyngor arnynt...? Ymhlith y caneuon gwych sydd yn rhan o’r ddrama ddoniol hon mae I’m Every Woman, I Want to Break Free a Somebody Else’s Guy ac mae’n seiliedig ar straeon gan ferched go iawn. Rhaid bod yn 16 oed neu’n hyn i weld y sioe, gan ei bod yn cynnwys iaith gref a themâu i oedolion. Mae Sex in Suburbia yn y Theatr Newydd o ddydd Mercher 13 i ddydd Iau 14 Mai. Mae pris tocynnau’n amrywio rhwng £10.00 a £26.00 ac ar werth nawr. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Gallai Ffi Gwasanaethu Tocynnau £2.95 gael ei chodi ar archeb (ceir eithriadau) Sex in Suburbia Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mercher 13 – Dydd Iau 14 Mai 7.45pm Tocynnau: £10.00 - £26.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, April 7, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
