Mae’r dilyniant i’r comedi poblogaidd Bred in Heaven o 2011 wedi cyrraeddBred in Heaven – The Road to Twickers yn y Theatr Newydd Bydd Frapetsus Productions yn dychwelyd i Gaerdydd gyda Bred in Heaven – The Road to Twickers, sef comedi newydd a chyffrous sy’n seiliedig ar Gwpan Rygbi’r Byd. Y tro diwethaf bu’r criw o ffrindiau sy'n gefnogwyr rygbi selog ar daith i Seland Newydd, ond ni fydd rhaid iddynt deithio mor bell y tro hwn. Yn ymuno â’r criw o Gymry arferol bydd y cymeriad eiconig Maldwyn Pugh, sy’n addo taith fythgofiadwy iddynt (er mae’n debyg y bydd rhai ohonynt am ei hanghofio!) A all Cymru fynd un cam ymhellach na 2011 a chyrraedd y rownd derfynol? A ellir trechu’r hen elynion ar eu tomen eu hunain? A fydd y bois hyd yn oed yn gallu cael gafael ar docyn? Dilynwch eu hynt a’u helynt rhyfeddol wrth iddynt gefnogi’r crysau cochion. Bydd Bred in Heaven – The Road to Twickers yn y Theatr Newydd o Ddydd Mercher 20 Mai i Ddydd Sadwrn 23 Mai. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £9.00 i £17.50. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Gallai Ffi Gwasanaethu Tocynnau £2.95 gael ei chodi ar archeb (ceir eithriadau) Bred in Heaven – The Road to Twickers Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 20 - Dydd Sadwrn 23 Mai Perfformiadau gyda’r Nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Dydd Iau a Dydd Sadwrn 2.30pm Tocynnau: £9.00 - £17.50 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, April 14, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae’r dilyniant i’r comedi poblogaidd Bred in Heaven o 2011 wedi cyrraedd