Ar ôl concro’r West End, gan gynnwys ennill Gwobr Olivier 2014 am y Comedi Gorau, mae pâr eiconig PG Wodehouse, Jeeves & Wooster yn dod â’u hiwmor unigryw i Gaerdydd o ddydd Mawrth 9 Mehefin tan ddydd Sadwrn 13 Mehefin. Wedi’i haddasu o weithiau Wodehouse, mae Perfect Nonsense yn ddrama newydd ardderchog gyda chast doniol dros ben. Pan fydd pethau'n mynd o chwith yn ystod penwythnos mewn ty yn y wlad, yn ogystal â cheisio sefydlu partneriaeth garwriaethol rhwng dau berson, mae gofyn i Berti Wooster ddwyn jwg hufen siâp buwch o Totleigh Towers. Yr unig beth sy’n rhwystro’r aristocrat rhag gwneud ffwl ohono’i hun yw ei valet dibynadwy Jeeves. Gyda jôcs dirifedi, mae’r comedi hwn yn cynnwys rhai o greadigaethau gorau Wodehouse megis Roderick Spode, Gussie Fink-Nottle a Dahlia Travers. Edward Hancock (One Man, Two Guvnors, Jeeves & Wooster – West End) sy’n chwarae rhan Wooster, ac yn adrodd yr hanes gwaradwyddys fel Jeeves mae Jason Thorpe (What the ButlerSaw, Primeval)– gan redeg o gwmpas yn adeiladu’r set ac yn actio’r holl gymeriadau eraill. Yn helpu Jeeves i ddod â’r cymeriadau yn fyw mae ei gyd-fwtler Seppings, a chwaraeir gan Chris Ryan (The Young Ones, Absolutely Fabulous). Perfect Nonsense yw sioe gomedi’r flwyddyn, a noson hyfryd o hurtrwydd theatraidd. Mae Jeeves & Wooster yn Perfect Nonsense yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 9 Mehefin tan ddydd Sadwrn 13 Mehefin. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda’r prisiau yn amrywio o £11.00 i £33.00. I gael manylion pellach ynglyn â’r sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk <http://www.newtheatrecardiff.co.uk> neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Codir Ffi Gwasanaeth Tocynnau o £2.95 ar archebion (ceir eithriadau) Jeeves & Wooster yn Perfect Nonsense Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 9 Mehefin tan ddydd Sadwrn 13 Mehefin Perfformiadau gyda’r nos 7.30pm; perfformiadau prynhawn ar ddydd Iau a dydd Sadwrn am 2.30pm Tocynnau: £11.00 - £33.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, May 5, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
