Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

LLEUAD YN OLAU – AR DAITH 3.6.15 – 8.7.15     

LLEUAD YN OLAU – AR DAITH 3.6.15 – 8.7.15
Eleni, bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn dathlu canmlwyddiant yr awdur T Llew Jones wrth ddod â nifer o’i straeon poblogaidd yn fyw mwn cynhyrchiad llwyfan hwyliog a chyfoes. Bydd Arad Goch yn cyflwyno LLEUAD YN OLAU yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth Dydd Mercher 17 i Dydd Iau 18 Mehefin.


Dyma gyfle gwych i blant Cymru gyfan fwynhau rhai o’i straeon enwocaf, ochr yn ochr â cherddoriaeth fyw. Bydd y gynulleidfa’n sicir o gael eu hudo ac yn dysgu pam cafodd yr awdur ei goronni yn ‘Frenin Llenyddiaeth Plant Cymru’

Tylwyth teg, ysbrydion, brenin, ffarmwr ...mae cymeriadau o bob math yn barod i gwrdd â phlant Cymru yn y perfformiad theatr hwyliog hwn gan Gwmni Theatr Arad Goch.
*Perfformiad Cymraeg ac addas i blant 6 - 12 oed.
www.aradgoch.org/ @aradgoch




Y DAITH
Mehefin 3 - Theatr Felinfach - 13:00 a 18:15
01570 470 697

Mehefin 5 - Theatr Mwldan, Aberteifi - 10:00 a 13:30
01239 621 200 *(perfformiad bore yn llawn)

Mehefin 8 - Lyric, Caerfyrddin - 10:00 a 13:00
0845 226 3510

Mehefin 10 - Theatr Soar, Merthyr Tudfil - 10:00 a 13:00 – *(Llawn)
Mehefin 12 - Theatr Glan yr Afon, Casnewydd - 13:00
01633 656 757

Mehefin 15 - Galeri, Caernarfon - 10:00 a 13:00
01286 685 250

Mehefin 17 - Canolfan y Celfyddydau 18:00
01970 623 232

Mehefin 18 - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - 10:00 a 13:00
01970 623 232

Mehefin 23 - Canolfan y Mileniwm, Caerdydd - 10:00 a 13:00
02920 636 464

Mehefin 25 - Ffwrnes, Llanelli - 10:00 a 13:00
0845 226 3510

Mehefin 29 a 30 - Neuadd Ysgol Dyffryn Banw, Llangadfan - 10:00 a 13:00/10:00
01938 820 226

Gorffennaf 2il - Theatr Twm o'r Nant, Dinbych - 10:00 a 13:00
01745 814 323

Gorffennaf 8fed – Theatr Brycheiniog, Aberhonddu - 10:00
01874 611 622

Gorffennaf 9 - Theatr Fach Llangefni, 10:00 a 13:00

Tocynnau ar gael gan Menter Mon 01248 725 700

Gorffennaf 14 - Theatr Gartholwg 10:00 a 13:00
01443 219 589

*Dydd Gwener Awst 7fed am 11:00 a 15:30 cynhelir perfformiadau yn Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Meifod. Mynediad gyda thocyn diwrnod yr Eisteddfod.

Byddwn hefyd yn cynnal gweithdai iaith trwy ddrama i ddysgwyr yn y Pod yn Maes D yn seilieidg ar waith T.Llew Jones, amser i'w gadarnhau*

Eisiau cyfrannu i'r sgwrs arlein? #Lleuadynolau a manylion am ddathliadau'r canmlwyddiant ar #100TLlew
 
web site
: www.aradgoch.org

e-mail:
Saturday, May 16, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk