Does dim diffyg 'drama' yn nhestun Woyzeck. Does dim diffyg gwleidyddiaeth chwaith. Mae ei chynhyrchu hi heddiw fel darn o theatr gyfoes gan gwmni ifanc o berfformwyr yn gwneud synhwyr perffaith.Mae Woyzeck yn hanes am dlodi, cariad, brad a llofruddiaeth. ac am blentyn sy’n cael ei adael yn amddifad. Mae’n hanes dyn tlawd mewn cymdeithas ffug-foesol, sy’n talu pris ofnadwy am geisio yn galed i gynnal ei deulu. Mae’n gorfod gwerthu ei gorff, ac mae’n colli ei feddwl. Does dim modd iddo, dim ots faint mae’n ymdrechu, i wneud synhwyr o’r byd o’i amgylch o. Mae difaterwch llwyr ei gyd-ddyn yn dorcalonus. Addasiad newydd o gyfieithiad Guto Dafis gan fyfyrwyr y drydedd flwyddyn BA Theatr a Drama Prifysgol De Cymru. Linc i tocynnau ar wefan Sherman: http://www.shermancymru.co.uk/performance/amatur-a-chymuned/woyzeck-cym/ |
| web site: www.shermancymru.co.uk/performance/amatur-a-chymuned/woyzeck-cym/ |
| e-mail: |
| Tuesday, May 19, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Does dim diffyg 'drama' yn nhestun Woyzeck. Does dim diffyg gwleidyddiaeth chwaith. Mae ei chynhyrchu hi heddiw fel darn o theatr gyfoes gan gwmni ifanc o berfformwyr yn gwneud synhwyr perffaith.