Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Mae gŵyl Blysh yn ôl ac mae mor ddisglair ag erioed     

Mae gŵyl Blysh yn ôl ac mae mor ddisglair ag erioed

Bydd Bae Caerdydd yn troi'n lliwiau'r enfys yr haf hwn wrth i ŵyl Blysh (24 Gorffennaf - 2 Awst) ddychwelyd mewn ffrwydrad o bŵer, cerddoriaeth, dawns, syrcas, secwinau, theatr stryd a chabaret llawn lliw. Gan gynnig dau benwythnos llawn sioeau am ddim i'r teulu cyfan yn ystod y dydd, bydd hefyd rhywbeth â natur fwy drygionus i'r oedolion gyda'r nos.

www.wmc.org.uk/blysh

Uchafbwyntiau'r Ŵyl

I gloi penwythnos cyntaf o ddigwyddiadau, bydd The Color of Time (26 Gorffennaf), yn ailddyfeisio un o wyliau traddodiadol India, sef Holi mewn ffrwydrad o bowdwr, cerddoriaeth a dawns liwgar. Yn dilyn gorymdaith wedi'i choreograffu o gwmpas Bae Caerdydd, bydd The Color of Time yn cynnal diweddglo trawiadol tu allan i'r Ganolfan lle caiff powdwr gulal lliwgar ei daflu i'r awyr mewn dathliad llawen. (Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn yr orymdaith. Ewch i www.wmc.org.uk/TakePart/blysh15/BlyshCall am ragor o wybodaeth.)

Yn ystod y penwythnos canlynol bydd Lost in Translation Circus: La Ballade de Bergerac (1 Awst) yn hudo cynulleidfaoedd gyda'u technegau trawiadol yn yr awyr. Gan dynnu ysbrydoliaeth o gyfnod stêmbync a Cyrano de Bergerac, ewch i fyd rhyfedd y bardd a'r arloeswr Monsieur de la Luna a'i griw wrth iddynt geisio teithio i'r lleuad.

Sioeau Am Ddim i'r Teulu

Drwy gydol y ddau benwythnos, bydd cymysgedd bywiog ac eclectig o ddigwyddiadau am ddim i'r teulu cyfan, o ddawns acrobatig yn cynnwys trolïau siopa i adrodd straeon mewn carafán hardd wedi'i thrawsnewid. Bydd comedi dywyll yn ystyried ein dibyniaeth ar dechnoleg ac ymgais ddoniol iawn i wneud The Most Dangerous Cup of Tea gan ddefnyddio The Whirling Hatstand of Death. Bydd Kitsch and Sync yn dychwelyd fel cadetiaid seiberofod a bydd un o ffyddloniaid Blysh Dan the Hat yn ymddangos gyda'i sioe trin hetiau adnabyddus, artistiaeth io-io a jyglo.

Blysh Liw Nos

Wrth iddi nosi, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn gwahodd cynulleidfaoedd i'w Stiwdio Weston am adloniant i oedolion. Am noson o wobrau, gemau a sbri i oedolion, ymunwch â Miss Behave (24 a 25 Gorffennaf) am noson o wobrau, gemau a gwiriondeb neu ymunwch â Musical Bingo (1 Awst) - fel bingo arferol ond ag alawon poblogaidd yn hytrach na rhifau. Yn ôl i ateb y galw, bydd y sioe lwyddiannus, Briefs (24 a 25 Gorffennaf) yn cyflwyno noson o foylesque bath adar, acrobateg yn yr awyr ac artistiaid drag gwych.

Dywedodd ein Pennaeth Rhaglenni, Louise Miles-Crust: 'Rwy'n edrych ymlaen yn arw at weld Bae Caerdydd yn dod yn fyw gyda'n Blysh mwyaf lliwgar erioed, ac mae'n bleser mawr gennyf groesawu ffefrynnau Blysh yn ôl gan gynnwys Briefs, Miss Behave a Kitsch & Sync, ynghyd ag amrywiaeth eang o dros 15 o berfformiadau gwahanol gan ddod â dawns, acrobateg, sgiliau syrcas, cerddoriaeth fyw ac adrodd straeon ynghyd. Peidiwch â methu ein prif berfformiadau sydd am ddim, sef The Color of Time a Lost in Translation Circus, sy'n addo llawer o hwyl i'r teulu cyfan.'

Cynhelir gŵyl Blysh rhwng 24 Gorffennaf a 2 Awst 2015. Am ragor o wybodaeth neu i archebu tocynnau, ewch i www.wmc.org.uk/blysh neu ffoniwch 029 2063 6464.

DYDDIADUR

24 Gor 2015

Miss Behave's Gameshow
7pm |Tocynnau £12 | Stiwdio Weston | Cyfyngiad Oed: 18+
Sioe Ornest, Sioe Adloniant, Disgo… gyda ffonau. Mae pawb yn medru ennill!
Mewn ymateb i natur slic cynyrchiadau byd adloniant heddiw, mae’r gynulleidfa yn ganolbwynt wrth i Miss Behave gyflwyno sach o hwyl sy’n fwriadol lo-fi a sili.

Briefs - The Second Coming
9pm |Tocynnau £12 | Stiwdio Weston| Cyfyngiad Oed: 18+
Bydd Shivannah swynol yn eich tywys drwy noson geg-agored o boylesque bath adar, triciau io-io eithafol, acrobateg dewr yn yr awyr, seibiau sarhaus, ac artistiaid drag cyfareddus.


25 Gor 2015

C12: Trolleys
2pm & 4pm |Am Ddim | Addas i bawb
Mae Trolleys yn chwyrlïo, llithro a sleidio yn y perfformiad awyr agored hynod o gorfforol a digri' yma. Yn cyfuno dawns safonol, dawns gyfoes, acrobateg a dawnsio stryd, ac wedi'i gyfeilio gan sgôr electroacwstig, bydd Trolleys yn pryfocio, cyffroi a gadael argraff ar y gynulleidfa.

Highly Sprung ac Vortex Creates: The Travelling Treasury
12pm - 6pm |Am Ddim | Addas i bawb
Mae Traveling Treasury yn brofiad storïol hudol sydd wedi'i leoli mewn carafán brydferth. Camwch i dudalennau llyfr, a gadewch i'r straeon esblygu, yn llythrennol, o flaen eich llygaid.

Reckless Invention: The Comedy Waiters
12.30pm, 3.15pm, 5.30pm |Am Ddim | Addas i bawb
Mae'r sioe yma am weini a chiniawa'n cyfuno comedi tawel â slapstic osgeiddig yn effeithiol iawn. Mae'r sioe'n dechrau gydag ambell i blât yn cael ei chwifio neu napcyn neu ddau wedi'i gerflunio'n gelfydd, nes bod y Comedy Waiters, gyda gwibiad o'u dici-bôs, yn ffrwydro i mewn i gân.

Beic
1pm, 6.15pm|Am Ddim | Addas i bob oed
Mae Beic yn gerddoriaeth sydd wedi'i chreu gyda 2 feic, ychydig o offer cyfrifiadurol a PA. Tarwch heibio i wthio'r sioe ymlaen drwy bedalu a phweru'r sioe.

Wet Picnic: Suitcases
2.30pm, 5pm |Am Ddim | Addas i bawb
Yn eu harddull nodweddiadol o ddefnyddio theatr symudol a hiwmor tywyll, bydd Wet Picnic yn goleuo ein byd modern ac yn cwestiynu’r hyn sy’n ein gwneud yn ddynol mewn oes ddigidol.

Miss Behave's Gameshow
7pm |Tocynnau £12 | Stiwdio Weston | Cyfyngiad Oed: 18+
Sioe Ornest, Sioe Adloniant, Disgo… gyda ffonau. Mae pawb yn medru ennill!
Mewn ymateb i natur slic cynyrchiadau byd adloniant heddiw, mae’r gynulleidfa yn ganolbwynt wrth i Miss Behave gyflwyno sach o hwyl sy’n fwriadol lo-fi a sili.

Briefs - The Second Coming
9pm |Tocynnau £12 | Stiwdio Weston| Cyfyngiad Oed: 18+
Bydd Shivannah swynol yn eich tywys drwy noson geg-agored o boylesque bath adar, triciau io-io eithafol, acrobateg dewr yn yr awyr, seibiau sarhaus, ac artistiaid drag cyfareddus.


26 Gor 2015

Tit for Tat: The Most Dangerous Cup of Tea in the World
12.30pm, 3.00pm, 5.45pm |Am Ddim | Addas i bawb
Mae Rick a Kevin, yn greaduriaid bach od. Maen nhw wedi'u clymu gan frwdfrydedd dwfn, peryglus ac ychydig yn wirion am de. Mae ganddyn nhw rysáit sydd ag un athroniaeth sylfaenol: Mae paned ond yn blasu'n dda os ydych chi bron â marw wrth ei baratoi! Ymunwch â nhw mewn corwynt antur anhygoel wrth iddyn nhw greu...'The Most Dangerous Cup of Tea in the World'

La La La Productions: Cracking Cruises
12.45pm, 2pm, 5pm |Am Ddim | Addas i bawb
Ymunwch â Ted a Ned, tywyswyr gor-brwdfrydig Cracking Cruises. Mwynhewch ffwlbri y dec, a chadwch olwg, mae’n ddigon posibl mai chi fydd sêr y sioe.

Theatr Hijinx 'Flossie and Jet'
1pm, 3.30pm |Am Ddim | Addas i bawb
Dyma Flossie a Jet, chwiorydd o gefndir mawreddog - roedden nhw'n arfer byw mewn plasty, ond erbyn hyn maen nhw'n ddigartref. Mae ganddyn nhw ddiddordeb yn y byd mawr newydd yma, ond maen nhw hefyd yn ceisio dal eu gafael ar weddillion eu hen fywydau. Mae Flossie a Jet yn chwilio am deulu a rhywle newydd i fyw.

The Popeye and Olive Show
4.15pm |Am Ddim | Addas i bawb
Mae’n siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r stori, ond efallai ddim fel hyn….
Sioe "gryf" ar gyfer yr holl deulu ac adloniant pur o’r dechrau i’r diwedd. Bydd The Famous Duo yn eich tywys ar hyd antur cerddorol a rhyngweithiol o fwyta sbigoglys, clecio’r chwip, ystumio ac acrobateg.

The Color of Time
7pm |Tu Allan | Am Ddim
Mewn ffrwydrad enfys o bowdr lliw, dawns a cherddoriaeth, mae The Color of Time yn cynnig gwedd newydd ar ŵyl draddodiadol India, Holi.
Bydd dawnswyr a cherddorion yn arwain y cyhoedd ar orymdaith tuag at uchafbwynt enfawr, gyda phowdrau Gulal yn cael eu taflu i’r awyr mewn llewyrch lliwgar a llawen er mwyn dathlu undod, goddefgarwch ac amrywiaeth.


01 Aws 2015

Pif Paf: The Bee Cart
12.45pm, 2pm, 4pm |Am Ddim | Addas i bawb
Mae ein tywyswyr gwenyn Bombus a Borage wedi ymddangos o’r cwch gwenyn gyda’r Bee Cart - eu byd symudol sy’n cynnwys gwybodaeth swreal am bob math o bethau’n ymwneud â gwenyn a pheillio.

Band Pres Llareggub
1.15pm | Am Ddim | Addas i bawb

Babs and Stella's Intergalactic Spectacular!
2.45pm, 4.45pm | Am Ddim | Addas i bawb
Rhowch groeso cynnes i'r gofodwyr unfath o'r blaned Kitschtopia! Cafodd y ddwy yma eu geni wedi cysylltu at ei gilydd, ond gwahanwyd nhw gan ddryll pelydr Dr D. Dreadful. Mae un yn dda, a'r llall yn gythraul... ond p'run yw p'run?... HELP!
Dyma THEATR DDAWNS DDIGRI llawn antur sy'n addas i'r teulu cyfan (gyda phelydrau!)

Lost in Translation Circus: La Ballade de Bergerac
6.15pm |Tu Allan | Am Ddim
Gan gyfuno technegau anhygoel yn yr awyr a set sydd wedi’i hysbrydoli gan stêmbync, mae’r sioe theatr syrcas yma wedi’i ddylanwadu gan ffuglen wyddonol cynnar a bywyd Cyrano de Bergerac.
Mae Monsieur de La Luna yn fardd a dyfeisiwr hynod o ddychmygus ac yn cael ei ysbrydoli i deithio i’r lleuad gan ddefnyddio ei gartref, rhyw ryfeddod mecanyddol. Gyda’i griw dewr ond ffôl y tu ôl iddo, dilynwn ni eu stori wrth iddyn nhw ymgeisio i wireddu gweledigaeth amhosib Monsieur de La Luna a’i wneud yn benigamp o bosib.

Musical Bingo
8pm | Tocynnau £8 | Stiwdio Weston | Canllaw Oed: 16+
Mae Musical Bingo’r un peth â bingo arferol, ond yn lle bloeddio rhifau at y gynulleidfa, mae tiwniau’n cael eu chwarae... TIWNIAU GWEFREIDDIOL! Mae pob un rownd yn llawn egni, gan grwydro drwy themâu gwahanol o’r breninesau pop, i ffefrynnau’r neuadd ddawns a chlasuron karaoke.


02 Aws 2015

Theatre Rush: Story Exchange
1pm, 2.45pm & 5pm |Am Ddim | Addas i bawb
Mae The Story Exchange yn berfformiad theatr ar grwydr, sy'n gofyn i'r gynulleidfa gyfrannu. O'r hen i'r ifanc a phawb rhyngddynt, mae croeso i bawb ddod er mwyn trafod y weithred o greu a chyfnewid straeon.

Molly Orange: Little Wonder
12.30pm & 4.30pm | Am Ddim | Addas i bawb
Dewch gyda ni wrth i Little Wonder ein tywys yn ôl i oes ein plentyndod, pan oedd gan y pethau syml mewn bywyd filiynau o ddefnyddiau. Mae'r cynhyrchiad yma'n cyfuno acrobalans a theatr gorfforol i greu siwrnai sy'n ein codi o fywyd bob dydd ac yn ein plannu ymhlith y penigamp. Dyma fyd fel Alice in Wonderland, ble mae pethau cyfarwydd a bychain gydag arfer o newid mewn maint.

Lifeboat Company: The Extraordinary Journey of Doctor Botanica
3.30pm |Am Ddim | Addas i bawb
Ymunwch â Doctor Botanica a'i gyfeillion wrth iddynt gychwyn ar ymdaith hynod i ddarganfod y Phoenix Orchid, planhigyn byd enwog sydd ond yn blaguro unwaith bob 100 mlynedd.
Wedi'i hysbrydoli gan bob un sydd wedi mentro crwydro'r byd i ddarganfod pellteroedd newydd, bydd Lifeboat Company yn eich tywys ar siwrnai gyffrous yng nghwmni'r Doctor a'i griw dewr. Dyma daith arbennig sy'n cyfuno theatr gorfforol â sgiliau syrcas gwefreiddiol. Dewch i ddilyn y criw wrth iddynt wynebu'r tywydd mawr a llu o rwystrau eraill.

Dan the Hat
12pm, 2pm & 3pm |Am Ddim | Addas i bawb
Awydd gael eich syfrdanu? Bydd Dan yn siŵr o wneud hynny gyda'i artistwaith anhygoel gyda io-ios a hetiau, jyglo rhyfeddol a llond gwlad o driciau eraill... a bydd hyd yn oed gyfle i chi gymryd rhan.
 
web site
: www.wmc.org.uk/blysh

e-mail:
Thursday, June 11, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk