Cyfle i weld perfformwyr ifanc mwyaf talentog CaerdyddNid sioe adloniant gyffredin mo Ladder, sef digwyddiad afieithus, cyffrous a difyr a gynhyrchir gan ein tîm Actifyddion Artistig. Crëwyd y sioe gyda chymorth NoFit State Circus, Earthfall, Cwmni Dawns Rubicon, Cwmni Theatr Ieuenctid Everyman a Cherdd Gymunedol Cymru. Cynhelir y sioe yn y Theatr Newydd ddydd Sadwrn 8 Awst. Gan ddefnyddio thema ysgol, anogir pobl ifanc 14-25 oed i ddringo’n uwch ac yn uwch wrth iddynt gydweithio ag artistiaid proffesiynol i greu dathliad unigryw. Gall y gynulleidfa fwynhau noson o berfformiadau eclectig gan actorion talentog, dawnswyr gosgeiddig, cerddorion cyffrous a pherfformwyr syrcas syfrdanol. Bydd llawer o’r bobl ifanc dalentog hyn yn perfformio yn y Theatr Newydd am y tro cyntaf erioed, dan oruchwyliaeth Actifyddion Artistig, sef adran allgymorth y Theatr Newydd. Dywedodd David Baxter, Rheolwr Actifyddion Artistig: “Mae Ladder yn rhoi cyfleoedd i’r bobl ifanc – cyfle i ddathlu ac arddangos eu talentau a’u doniau, yn ogystal â chyfle iddynt ddod ynghyd i ystyried eu bydoedd, eu breuddwydion a’u delfrydau ar gyfer y dyfodol.” Bydd Ladder yn y Theatr Newydd Ddydd Sadwrn 8 Awst. Mae’r tocynnau ar werth nawr am £8.00. Am ragor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Ni chodir Tâl Gwasanaeth gan y Swyddfa Docynnau ar gyfer y sioe hon. Ni ellir prynu tocynnau ar-lein. Ladder Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Sadwrn 8 Awst 7.30pm Tocynnau: £8.00 Y Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 |
| Y Theatr Newydd, Caerdydd web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, July 1, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Cyfle i weld perfformwyr ifanc mwyaf talentog Caerdydd