|
Birmingham Royal Ballet yn cyflwyno Swan Lake yng Nghanolfan Mileniwm Cymru dros dymor yr Hydref |
Bydd Birmingham Royal Ballet, un o gwmnïoedd clasurol gorau’r byd, a chwmni teithio ballet blaenaf y DU yn dychwelyd i Gaerdydd fis Tachwedd gydag un o’r cynyrchiadau mwyaf ei barch o Swan Lake. Wedi’i greu gan y coreograffydd adnabyddus a Chyfarwyddwr Llawryfog Birmingham Royal Ballet, Sir Peter Wright, mae’r cynhyrchiad clasurol yma o stori garu orau ballet yn cynnwys dylunio gothig aruthrol a moethus gan Philip Prowse a gwisgoedd ysblennydd gan gynnwys yr haid enwog o dwtŵau gwyn sy’n ymddangos o lyn gloyw. Bydd yr ensemble cywrain o ddawnswyr – gyda William Bracewell o Abertawe yn eu plith– yn cael eu cyfeilio gan bumdeg o gerddorion Royal Ballet Sinfonia i fywiogi sgôr chwedlonol Tchaikovsky. Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig a Chreadigol Canolfan Mileniwm Cymru “Mae’n bleser i groesawu Birmingham Royal Ballet yn ôl i gyflwyno Swan Lake. Rydyn ni wedi ein hymroi’n llwyr i ddod â pherfformiadau dawns o safon uchel i’r Ganolfan, ac mae’r cynhyrchiad yma’n bleser pur.” Bydd Birmingham Royal Ballet hefyd yn cyflwyno perfformiad arbennig ar gyfer plant oed 3 – 7 o’r enw First Steps: A Child’s Swan Lake. Mae’r rhaglen ryngweithiol awr o hyd yma wedi’i chynllunio i fod yn gyflwyniad lliwgar i fyd cyffrous ballet, gyda chwmni llawn o ddawnswyr a cherddorfa. Ac fel rhan o ymrwymiad parhaus y cwmni at gynnwys cynulleidfaoedd yn y broses greadigol, bydd y tymor yma’n dod â dau brofiad gwbl newydd i gynulleidfaoedd Caerdydd. Cyn codi’r llen ar berfformiad nos Wener (13 Tachwedd), mae gwahoddiad i aelodau’r gynulleidfa i ymuno â phanel neilltuol o rai o unigolion creadigol mwyaf dylanwadol Birmingham Royal Ballet wrth iddynt drafod bywyd a pherfformio fel rhan o gwmni ballet sy’n adnabyddus yn fyd eang. Mae’r digwyddiad yma am ddim i ddeiliaid tocynnau. Ar fore Sadwrn (14 Tachwedd) bydd aelodau’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i ymuno â dawnswyr y cwmni wrth iddynt agor eu dosbarth dyddiol. Dyma gyfle prin ac unigryw i aelodau o’r cyhoedd gymryd cip a phrofi’r paratoadau a’r ymroddiad sydd ei hangen y tu ôl i’r llen i fod yn rhan o gwmni ballet. Bydd Swan Lake yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 11 – 14 Tachwedd 2015. Mae tocynnau yn costio £17 - £42. Canllaw oed 5+ (Dim plant o dan 2 oed). Mae seddi premiwm ar gael. Bydd First Steps: A Child’s Swan Lake yn cael ei berfformio ddydd Gwener 13 Tachwedd am 1pm. Tocynnau £10. Bydd sgwrs cyn y perfformiad yn digwydd nos Wener 13 Tachwedd am 6.30pm. Mae’r digwyddiad yma am ddim i ddeiliaid tocynnau. Bydd hefyd dosbarth gan y cwmni yn cael ei gynnal Sadwrn 14 Tachwedd am 11.45am. Tocynnau £10. |
| web site: www.wmc.org |
| e-mail: |
| Tuesday, August 11, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
