Mae’r sioe gerdd lwyddiannus Dirty Rotten Scoundrels wedi cyrraedd Caerdydd gan ddod â llond y lle o hwyl a drygioni i lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r cynhyrchiad yn serennu’r perfformiwr o Gaerdydd Noel Sullivan fel Freddy ochr yn ochr â Michael Praed fel Lawrence, Carley Stenson fel Christine a’r gwestai arbennig Mark Benton fel Andre. Dewch i’r Rifiera Ffrengig ble fydd isfyd llygredig y twyllwr soffistigedig Lawrence Jameson yn cael ei droi’n flith-draphlith gydag ymweliad y cymeriad mawr Freddy Benson - twyllwr o fath gwahanol. Gan sylweddoli ar fyr dro mai dim ond lle i un sydd mewn gwirionedd yn y dref, mae’r ddau yn mynd benben â’i gilydd i geisio twyllo etifeddes gyfoethog, Christine Colgate. Does gan yr un ohonyn nhw syniad beth sy’n eu hwynebu. Fel y Sioe Gerdd Orau yn 2014 fe berfformiwyd y cynhyrchiad am flwyddyn gan dderbyn adolygiadau canmoliaethus, theatrau gorlawn a chael ei enwebu am Wobr Olivier am y Coreograffi Gorau. Mae’r sioe gerdd wedi’i selio ar y ffilm 1988 chwedlonol Dirty Rotten Scoundrels gyda Michael Caine a Steve Martin. O dan gyfarwyddyd a choreograffi enillydd Gwobr Tony, Jerry Mitchell mae geiriau a cherddoriaeth Dirty Rotten Scoundrels yn perthyn i enillydd Gwobr Drama Desk, David Yazbel a’r llyfr gan Jeffrey Lane, sydd wedi ennill gwobrau Golden Globe ac Emmy. Mae’r cynhyrchiad wedi’i gyflwyno gan yr Ambassador Theatre Group a chynyrchiadau Jerry Mitchell. Bydd Dirty Rotten Scoundrels yng Nghanolfan Mileniwm Cymru tan ddydd Sadwrn 22 Awst gyda phrisiau tocynnau rhwng £19-£42. Seddi Premiwm ar gael. Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i www.yganolfan.org.uk neu ffoniwch 029 2063 6464. |
| web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, August 18, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
